Davies yn ôl i wynebu’r Cheetahs

Natalie JonesNewyddion

Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr y Scarlets, wedi enwi ei dîm i wynebu’r Cheetahs yn y Guinness PRO14 gan wneud dau newid i’r tîm a drechodd y Southern Kings penwythnos diwethaf.

Daw’r mewnwr Mike Phillips i mewn i’r tîm cychwynol, fel yr unig newid i’r linell gefn, yn dilyn anaf i Jonathan Evans.

Fe fydd cefnogwyr yn bles iawn gweld bod James Davies yn ôl yn dilyn cyfnod yn gwella o llawdriniaeth i’w ysgwydd.

Mae Will Boyde yn symud i safle’r wythwr gyda Josh Macleod yn symud i’r fainc.

Fe fydd y clo Steven Cummins yn chwarae ei gêm gyntaf i’r rhanbarth os ddaw oddi ar y fainc yn ogystal â’r mewnwr Herschel Jantjies, sydd wedi arwyddo cytundeb dros dro ar gyfer y gêm. Fe fydd y Ioan Hughes hefyd yn chwarae ei gêm rhanbarthol cyntaf os ddaw i’r cae o’r fainc.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd Wayne Pivac; “Does neb arall yn ein Hadran wedi sicrhau buddugoliaeth yno, felly mae’n gêm fonws i ni. Fe fyddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau buddugoliaeth.

“Fe fydd y bois yn awyddus i sicrhau buddugoliaeth a’r pwyntiau. Mae sicrhau pump pwynt yn y gêm gyntaf wedi codi peth o’r pwysau. Ry’n ni mewn safle da. Ry’n ni wedi cadw saith pwynt ar y blaen o’r timau eraill yn ein hadran ac fe fyddwn ni yn aros ar frig y tabl ar ôl y daith.”

Tîm y Scarlets i wynebu’r Cheetahs, Sadwrn 2il Rhagfyr, cic gyntaf 5.35YH;

15 Johnny Mcnicholl, 14 Tom Prydie, 13 Steff Hughes ©, 12 Paul Asquith, 11 Ioan Nicholas, 10 Dan Jones, 9 Mike Phillips, 1 Dylan Evans, 2 Ryan Elias, 3 Werner Kruger, 4 Lewis Rawlins, 5 David Bulbring, 6 Tadhg Beirne, 7 James Davies, 8 Will Boyde

Eilyddion; Taylor Davies, Rhys Fawcett, Simon Gardiner, Steven Cummins, Josh Macleod, Herschel Jantjies, Ioan Hughes, Morgan Williams