Mae Kieran Hardy am gael ei ddechreuad cyntaf yn y Chwe Gwlad fel un o’r chwe Scarlets sydd wedi’u henwi yn yr ochr i wynebu Lloegr yn y drydedd rownd o’r gystadleuaeth ar ddydd Sadwrn.
Rhoddodd argraff dda fel eilydd yn ystod y fuddugoliaeth cyffroes ym Murrayfield ac yn cael ei ddewis o flaen ei gyd-chwaraewr Scarlets Gareth Davies sydd wedi’i enwi ymysg yr eilyddion.
Mae Jonathan Davies yn dychwelyd i’r XV ar ôl gwella o anaf i’w bigwrn a wnaeth olygu iddo golli’r ddwy gêm gyntaf yn y bencampwriaeth.
Gyda Leigh Halfpenny yn dilyn protocol HIA i ddychwelyd i chwarae, mae Liam Williams yn newid i safle’r cefnwr, tra bod Wyn Jones a Ken Owens yn cadw ei safleoedd yn y tîm.
Dangosir pum newid i’r tîm wnaeth ennill yn erbyn yr Albanwyr.
Mae Josh Adams yn ôl yn y garfan yn dilyn gwaharddiad, George North – a fydd yn derbyn ei 100fed gap ac yn derbyn y teitl o fod y chwaraewr ifancaf i gyrraedd y nod – fydd yn bartner i Davies yng nghanol cae, wrth i Josh Navidi ddod mewn i Aaron Wainwright yn y rheng ôl.
Dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac: “Rydym wedi cael pythefnos gwych yn arwain at y gêm ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddydd Sadwrn. Rydym yn parhau i adeiladu ac yn ymwybodol bod llawer i weithio ar yn dilyn y ddwy gêm gyntaf. Er ein bod 2/2 rydym am barhau i wella ar ein perfformiad.
“Bydd dydd Sadwrn yn gyrhaeddiad gwych i George, mae’n garreg filltir anhygoel am ddyn ei oedran ef ac rydym yn edrych ymlaen at weld ei berfformiad.”
CYMRU: Liam Williams (Scarlets); Louis Rees-Zammit (Gloucester), George North (Ospreys), Jonathan Davies (Scarlets), Josh Adams (Cardiff Blues); Dan Biggar (Northampton), Kieran Hardy (Scarlets); Wyn Jones (Scarlets), Ken Owens (Scarlets), Tomas Francis (Exeter), Adam Beard (Ospreys), Alun Wyn Jones (Ospreys), Josh Navidi (Cardiff Blues), Justin Tipuric (Ospreys), Taulupe Faletau (Bath).
Reps: Elliot Dee (Dragons), Rhodri Jones (Ospreys), Leon Brown (Dragons), Cory Hill (Cardiff Blues), James Botham (Cardiff Blues), Gareth Davies (Scarlets), Callum Sheedy (Bristol Bears), Willis Halaholo (Cardiff Blues).