Mae’r Scarlets yn croesawu yn ôl ei chwaraewyr rhyngwladol Jake Ball a Steff Evans ar gyfer darbi San Steffan yn erbyn y Gweilch ym Mharc y Scarlets (17:15; Premier Sports).
Mae Ball wedi dilyn protocolau cyfergyd, a Evans wedi gwella o salwch i’r ddau allu cael eu cynnwys yn y XV a gwelwyd dau newid o’r tîm oedd i wynebu RC Toulon penwythnos diwethaf ond cafodd ei ganslo.
Yn ymuno ag Evans mae Johnny McNicholl sy’n llenwi safle’r cefnwr, a Tom Rogers yn cwblhau’r tri chefnwr; canolwr Cymru a’r Llewod Jonathan Davies fydd yn ymuno â’r capten Steff Hughes yng nghanol cae, wrth i Dan Jones Kieran Hardy dechrau fel haneri eto.
Wyn Jones, Ryan Elias a Javan Sebastian fydd yn creu’r rheng flaen, wrth i Ball ymuno â Morgan Jones fel clo. Ed Kennedy, Uzair Cassiem a Josh Macleod wedi’u henwi fel y tri yn y rheng ôl.
Ymysg yr eilyddion mae nifer o newidiadau. Mae’r prop pen rhydd Phil Price, Tevita Ratuva, chwaraewr rhyngwladol yr Alban Blade Thomson a maswr Cymru d20 Sam Costelow yn dod i mewn. Bydd y prop pen tynn o Dde Affrica Pieter Scholtz yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf os yw’n dod oddi’r fainc.
Mae profion wythnosol Covid-19 y Scarlets wedi cynhyrchu un prawf positif ac mae’r chwaraewr hynny yn hunan ynysu gan ddilyn canllawiau’r llywodraeth.
Y Gweilch v Scarlets (Dydd Sadwrn, Rhagfyr 26 (17:15, Premier Sport)
15 Johnny McNicholl; 14 Tom Rogers, 13 Jonathan Davies, 12 Steff Hughes (capt), 11 Steff Evans; 10 Dan Jones, 9 Kieran Hardy; 1 Wyn Jones, 2 Ryan Elias, 3 Javan Sebastian, 4 Jake Ball, 5 Morgan Jones, 6 Ed Kennedy, 7 Josh Macleod, 8 Uzair Cassiem.
Reps: 16 Marc Jones, 17 Phil Price, 18 Pieter Scholtz, 19 Tevita Ratuva, 20 Blade Thomson, 21 Gareth Davies, 22 Sam Costelow, 23 Tyler Morgan
Ddim ar gael oherwydd anaf
Ken Owens (shoulder), Liam Williams (ankle), Johnny Williams (calf), Lewis Rawlins (neck), Tomi Lewis (knee), Alex Jeffries (elbow), Tom Phillips (hip), Dylan Evans (shoulder), Taylor Davies (shoulder), Jac Morgan (knee), Jac Price (ankle), Samson Lee (concussion), Rob Evans, Rhys Patchell, James Davies, Aaron Shingler.