Mae prif hyfforddwr Cymru, sy’n dechrau ar ei waith yn ei dymor olaf yng Nghymru, wedi enwi ei garfan ar gyfer Cyfres yr Hydref a fydd yn digwydd yn Stadiwm Principality Caerdydd.
Mae deuddeg Scarlet wedi eu henwi yn y garfan ar gyfer y profion cyntaf yn nhymor Cwpan Rygbi’r Byd.
Y deuddeg Scarlet yw Rob Evans, Wyn Jones, Ken Owens, Ryan Elias, Samson Lee, Jake Ball, Gareth Davies, Rhys Patchell, Hadleigh Parkes, Jonathan Davies, Steff Evans a Leigh Halfpenny
Fe fydd Cymru yn chwarae pedair gêm brawf;
- Sadwrn 3yddTachwedd v yr Alban
- Sadwrn 10fed Tachwedd v Awstralia
- Sadwrn 17eg Tachwedd v Tonga
- Sadwrn 24ain Tachwedd v De Affrica