Dewch â ffrind i Scarlets v Caerdydd am £5.15 yn unig!

GwenanNewyddion

Mae rowndiau agoriadol Pencampwriaeth Rygbi Unedig 2024/25 llai na mis i ffwrdd ac rydym yn paratoi ar gyfer ein gêm gartref gyntaf yn erbyn Caerdydd.

Bydd pedwar mis hir wedi mynd heibio ers ein gêm gartref ddiwethaf, ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu chi i gyd yn ôl i Barc y Scarlets.

Rydym am eich helpu i ailgysylltu â’ch ffrindiau rygbi nad ydych efallai wedi’u gweld ers peth amser a’n helpu ni i groesawu’r tymor newydd i Barc y Scarlets mewn steil. Fel diolch i Aelodau Tymor am eich cefnogaeth barhaus, rydym yn falch o gyhoeddi bod gennych hawl i brynu hyd at BEDWAR tocyn gêm ar gyfer Scarlets v Caerdydd, cic gyntaf dydd Sadwrn 28ain Medi 5.15pm, am £5.15 y tocyn yn unig!

Dewch â’ch ffrindiau ynghyd, casglwch aelodau’r teulu at ei gilydd, a mwynhewch brynhawn arbennig gyda ni ym Mharc y Scarlets. Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar tickets.scarlets.wales i brynu eich Tocynnau Ffrindiau a Theulu neu cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39.

  1. Nid yw’r cynnig yn ddilys ar docynnau plant
  2. Nid yw’n bosib i ni gadarnhau y bydd yn bosib i chi brynu tocynnau ger eich tocynnau Aelodaeth Tymor
  3. Mae Aelodau Tymor sydd â mynediad lolfa fel rhan o’u pecyn yn gallu prynu tocynnau ychwanegol ond ni fydd yn y tocynnau hynny yn cynnwys mynediad i’r lolfa