Diweddariad anafiadau

Kieran LewisNewyddion

Dioddefodd Steff Evans anaf i’w benglin pan yn chwarae dros Gymru yn erbyn De Affrica. Mae wedi gweld arbenigwr ac ni fydd angen iddo dderbyn llawdriniaeth. Y gobaith yw y bydd yn iawn ar gyfer dechrau’r tymor.

Bu’n rhaid i Wyn Jones ddychwelyd o’r daith haf ar ôl iddo ddioddef anaf i’w goes. Fe fydd yn gweld arbenigwr i gynorthwyo gyda’r ffordd gorau ymlaen.

Mae Samson Lee wedi ei rhyddhau o garfan Cymru ac wedi dychwelyd adref gyda anaf i’w gefn. Fe fydd yn derbyn asesiad pellach gyda’r rhanbarth.

Fe dorrodd Hadleigh Parkes ei fys yn y gêm brawf yn erbyn yr Ariannin penwythnos diwethaf. Ni fydd ar gael ar gyfer y gêm brawf olaf ac fe fydd yn derbyn asesiad pellach ymhen amser.