Diweddariad o’r garfan o flaen ein gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT yn erbyn Benetton yn Nhreviso.
Mae’r prop Harri O’Connor wedi rhwygo’i Achilles yn ystod gêm y Saraseniaid ar nos Wener ac yn paratoi i dderbyn llawdriniaeth. Mae’n debygol o golli mas ar y mwyafrif o dymor 2024-25.
Mae’r mewnwr Archie Hughes i dderbyn llawdriniaeth ar ei bigwrn yn dilyn anaf o’r gêm gyfeillgar yn erbyn Leicester ac yn debygol o fod allan o’r chwarae am o leiaf tair mis.
Derbyniodd ein canolwr Eddie James cyfergyd yn erbyn y Saraseniaid ac yn dilyn protocolau dychwelyd i chwarae.
Mae Tomi Lewis (Achilles), Steff Evans (Achilles), Shaun Evans (pen-glin) a Joe Roberts (pen-glin) i gyd ar restr hirdymor o anafiadau.
Bydd y Scarlets yn asesu nifer o chwaraewyr wythnos yma cyn dewis y tîm ar gyfer gêm Benetton.