Johnny McNicholl
Anafodd Johnny McNicholl ei bigwrn yn hwyr yn y gêm yn erbyn Toulon y penwythnos diwethaf. Mae Johnny wedi dechrau ei adferiad a disgwylir na fydd ar gael am hyd at wyth wythnos.
Leigh Halfpenny
Cafodd Leigh Halfpenny eu dynnu o’r cae ar gyfer Asesiad Anaf Pen yn yr ail hanner yn erbyn Toulon. Mae Leigh wedi cwblhau’r broses HIA ac mae’n ôl mewn hyfforddiant llawn.
Tomi Lewis
Yr wythnos hon mae Tomi Lewis wedi cael llawdriniaeth ar gyfer anaf sylweddol i’w ben-glin a gafodd wrth sesiwn hyfforddi. Mae gan Tomi gefnogaeth pawb yn Scarlets wrth iddo gychwyn ar y ffordd hir i adferiad sydd o’i flaen. Amcangyfrifir y bydd ei adferiad oddeutu 12 mis.