Bydd Leigh Halfpenny yn colli allan ar weddill gemau haf Cymru ar ôl derbyn anaf i’w ben-glin yn ystod gêm Canada ar ddydd Sadwrn.
Bydd angen llawdriniaeth ac asesiadau pellach ar faswr y Scarlets cyn rhoi amserlen pendant ar ei ddychweliad.
Mae chwaraewr ifanc y Dreigiau Aneurin Owen, sydd wedi bod yn ymarfer gyda’r garfan fel chwaraewr ychwanegol, wedi ei ychwanegu at y garfan yn swyddogol fel eilydd Halfpenny.