Mae’r chwaraewr ail reng Sam Lousi a’r mewnwr Kieran Hardy wedi ymuno â charfan y Scarlets ar gyfer y gêm agoriadol o Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT yn Ne Affrica.
Fe ymddangosodd Lousi i Tonga yn ystod gemau grwp Cwpan Rygbi’r Byd, wrth i Hardy ymuno â charfan Cymru yn Ffrainc i ymarfer gyda’r tîm o flaen y gêm rownd y cwarteri.
Fe adawodd y garfan 28 dyn o Barc y Scarlets ar brynhawn Dydd Mawrth i hedfan mas ar gyfer y rownd gyntaf o’r twrnamaint yn erbyn Vodacom Bulls yn Pretoria ar Ddydd Sul.
Mae’r maswr Dan Jones a’r asgellwr Steff Evans yn absennol oherwydd anafiadau llinyn y gar, wrth i’r chwaraewyr rhyngwladol Samson Lee a Ken Owens parhau i wella o anafiadau hir dymor.
Mae Vaea Fifita wedi’i wahardd yn dilyn cerdyn coch yn ystod gêm Cwpan Rygbi’r Byd i Tonga.