Mae un o oreuon y Scarlets Dwayne Peel yn ailymuno a’i glwb cartref fel prif hyfforddwr o flaen tymor 2021-22.
Mae Dwayne yn cael ei adnabod fel un o’r chwaraewyr gorau i erioed wisgo’r crys Scarlets gan chwarae 151 o gemau yn ystod naw tymor ym Mharc y Strade.
Yn wreiddiol o Dymbl yng Nghwm Gwendraeth, mae Peel wedi derbyn 76 o gapiau i’w wlad yn safle’r mewnwr ac fe ddechreuodd ym mhrawf 2005 y Llewod yn Seland Newydd.
Yn dilyn cyfnod gyda Sale a Bryste, gorffennodd Peel ei yrfa chwarae er mwyn cychwyn fel rhan o dîm hyfforddi Bryste cyn cychwyn rôl fel hyfforddwr cynorthwyol gyda thîm Ulster yn 2017.
Wrth i Dwayne lenwi safle’r prif hyfforddwr, bydd ein hyfforddwr presennol Glenn Delaney yn cychwyn rôl newydd fel cyfarwyddwr rygbi.
Dywedodd cadeirydd gweithredol y clwb Simon Muderack: “Mae’n newyddion ffantastig i’r cefnogwyr bod un o arwyr y clwb yn dod adref. Roedd ei yrfa fel chwaraewr yn rhagorol, ond mae Dwayne hefyd wedi ennill llawer o barch am ei waith fel hyfforddwr yn ystod ei gyfnodau gyda Bryste ac Ulster.
“Mae Dwayne yn deall y clwb, ac yn deall ‘ffordd y Scarlets’ ac mae’n edrych ymlaen yn fawr at ddod adref i Orllewin Cymru i ddechrau ei rôl yn ein tîm hyfforddi.
“Mae apwyntiad Dwayne yn rhan o gynllun hirdymor i gryfhau ein tîm ar ac oddi ar y cae ac rwy’n siŵr bydd pawb sydd yng nghysylltiedig â’r Scarlets yn edrych ymlaen at weld ei waith. Dymunwn y gorau iddo yn ystod ei fisoedd olaf gydag Ulster ac edrychwn ymlaen at ei groesawu yn ôl yn yr haf.”
Dywedodd Dwayne Peel: “Mae’r Scarlets yn golygu cymaint i mi ac i’r teulu a dw i wrth fy modd i ddychwelyd i fy nghlwb cartref fel prif hyfforddwr.
“Dw i wedi bod yn ffodus iawn i fod yn rhan o ddigwyddiadau anhygoel gyda’r Scarlets yn ystod fy amser yn Strade ac rwy’n ymwybodol bod pawb sydd ynghlwm â’r clwb eisiau cystadlu yn gyson yn erbyn y timau gorau yn Ewrop.
“Fel chwaraewr, dw i wedi profi gwir angerdd cefnogwyr y Scarlets, mae yna berthynas arbennig iawn rhwng y cefnogwyr â’r chwaraewyr ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld pawb eto ym Mharc y Scarlets tymor nesaf.”