Roedd y prif hyfforddwr Dwayne Peel yn talu teyrnged i ymdrech ei garfan ar ôl y fuddugoliaeth 34-28 ym Mharc y Scarlets yn erbyn Benetton ar nos Wener.
Gorffennodd y tîm y gyfres agoriadol o gemau’r Pencampwriaeth Rygbi Unedig gyda’u hail fuddugoliaeth, er oedd angen brwydro i gadw’r Eidalwyr rhag ennill tuag at ddiwedd y gêm.
“Roeddwn yn hapus i’r grwp gan fod sawl chwaraewr ddim ar gael ac fe lwyddon i roi cyfleoedd i chwaraewyr sydd wedi gweithio’n galed dros yr haf. Mae’r grwp yma’n dynn ac roedd hynny’n dangos,” dywedodd Peel.
“Roedd hi’n ymdrech cyfunol. Mae rhywun fel Shaun Evans yn haeddu clôd gan ei fod yn grwt lleol, o’r dre, ac yn caru chwarae i’r clwb. Mae gweld rhwyun fel’na yn perfformio’n dda yn grêt.”
“Cyn i’r gêm cychwyn fe soniais am Shings, Rob a Steff am faint mor bwysig oedd heddiw iddyn nhw. Teimlas roedd yna buzz yn ystod y twymo lan.”
Rhasiodd y Scarlets gan arwain 14-0 gan ddiolch i gais gan Rob Evans a ymdrech anhygoel gan y tîm i orffen gyda Dane Blacker yn croesi, ond i Benetton ymateb gyda chais ar bob ochr yr hanner.
Roedd momentwm gweddill y gêm yn cyfnewid. Marc Jones o’r tafliad i mewn cynorthwyodd Blacker i hawlio un arall yn dilyn Scott Williams yn torri trwy.
Ond roedd rhaid i’r tîm cartref i frwydro i ddal ymlaen i’r fuddugoliaeth yn ystod y munudau diwethaf.
“Roedd adegau lle roedd y bois yn rheoli ond wedyn yn colli’r rheolaeth oherwydd gwallau a byse’r Eidalwyr nôl ynddi,” cyfaddodd Peel.
“Sgoriwyd ceisiau neis, fe adawon rhai ceisiau i mewn hefyd, ond ar y cyfan rwy’n credu roedd heno’n cam ymlaen yn ein amddiffyn, yn enwedig yn ein 22. Roedd sawl chwaraewr mawr ar y cae, gyda sawl chwaraewr rhyngwladol Eidaleg yn eu carfan. Dw i wrth fy modd i’r bois ein bod wedi llwyddo i gael y fuddugoliaeth.”
Mae’r gystadleuaeth nawr ar egwyl am bedair wythnos cyn i’r Scarlets teithio i Dde Affrica i wynebu Cell C Sharks a’r Vodacom Bulls am rowndiau chwech a saith.
Ychwanegodd Peel: “Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd gyda sawl sgwrs onest ac mae rhaid i ni wella, dyna’r gwir. Mae gennym cwpl o ddiwrnodau bant nawr ac wedyn byddwn mewn am dair wythnos ble gallwn weithio’n galed cyn teithio i Dde Affrica, ymgyrch Ewropeaidd a gemau darbi. Mae’n gyfnod heriol o’n blaenau.”