Dywedodd. prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel ei fod yn edrych ymlaen at weld rhai o dalentau ifancaf y garfan yn arddangos eu sgiliau ar y penwythnos.
Mae sawl chwaraewr ifanc am gymryd eu cyfle yn ystod y gêm gyfeillgar ar brynhawn dydd Sadwrn yn erbyn Nottingham ym Mharc y Scarlets (2:30) wrth i baratoadau ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi Unedig fynd yn ei flaen ar gyfer diwedd mis Medi.
“Rydym wedi bod yn ffodus iawn i ddatblygu llawer o dalent,” dywedodd Peel yn ei gynhadledd i’r wasg.
“Mae’r cryfder yn y tri ôl wedi sefyll allan gyda bois fel Ryan Conbeer, Corey Baldwin, Thomas Rogers, Ioan Nicholas a sawl arall. Mae hynny wedi bod yn amlwg o’r man cychwyn.
“Mae gennym mewnwyr da hefyd sydd tua’r un oedran. Bois fel Luke Davies, oedd yn anlwcus i gael ei adael allan o garfan Cymru dan 20 llynedd oherwydd anaf i’w ysgwydd ond yn gwella’i ffitrwydd bob dydd, ac yn cymryd rhan mewn ymarferion digyswllt; mae Harri Williams wedi bod yn rhan o’r garfan dros yr wythnosau diwethaf ac mae Archie Hughes newydd arwyddo cytundeb i’r Academi.
“Mae’r cystadleuaeth rhwng y tri yn dda iawn. Yn amlwg mae Kieran (Hardy) nôl a Dane Blacker yn y safle yna hefyd.
Yn sôn am dychweliad Corey Baldwin o Exeter Chiefs, ychwanegodd Peel: “Mae’n chwaraewr talentog iawn, yn ddyn mawr sydd yn ystwyth iawn ac rwy’n edrych ymlaen i weld ei berfformiad ar ddydd Sadwrn. Mae’n dda i’w gael yn ôl. Mae llawer o gystadleuaeth am y safle yna.”
Rhoddodd diweddariad ar anafiadau gan fynegi ar Josh Macleod, sydd yn gwella o anaf i’w achilles a gafwyd yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
“Mae ar y trywydd iawn ac dwi’n hapus gyda sut mae’n dod ymlaen. Mae Josh yn gwneud popeth yn ei allu i ddod nôl, mae’n amlwg yn gweithio’n galed ac yn berson galluog iawn. Mae’n dda ei weld nôl yn gwisgo’i boots yn rhedeg gyda’r ffisio sydd yn arwydd da i ni.
“Gyda natur ei anaf does dim amserlen go iawn ar ei ddychweliad eto. Beth allai weud am nawr yw fod ganddo llawer o waith i wneud ar ei achilles. Rhaid aros i weld beth fydd i ddod o ran dyddiad pendant ar ei ddychweliad. Byddwn yn gwybod dros yr wythnosau nesaf ble a pryd bydd yn chwarae i ni nesaf.
“Oherwydd natur yr anaf, bydd rhaid cymryd ein amser. Os yw ei dychweliad ar ben arall y tymor does dim byd allwn ni wneud. Mae Josh mewn amgylchedd da yma, mae ganddo egni bositif ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld ar y cae.”
Cadarnhaodd Peel bod James Davies yn parhau i ddilyn protocolau dychwelyd i chwarae yn dilyn cyfergyd.