Bydd Scarlets yn chwarae ASM Clermont Auvergne yn rownd yr wyth olaf o Gwpan Her EPCR ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Gwener, Ebrill 7 gyda’r gic gyntaf am 8yh. Bydd y gêm yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C a BT Sport.
Cadarnheir y manylion gan drefnwyr y gystadleuaeth yn dilyn cwblhad y rownd o 16.
Sicrhawyd Scarlets eu lle yn rownd yr wyth olad yn dilyn buddugoliaeth calonogol yn erbyn Brive yn Llanelli ar nos Wener, wrth i Clermont curo Bristol ym Mryste.
Dyma fydd yr wythfed tro i’r ddau ochr cystadlu yn erbyn ei gilydd a’r pedwerydd tro i hynny i ddigwydd yn Llanelli.
“Gennym ddigwyddiad mawr arall ar y ffordd gyda Clermont yn dod i Lanelli wythnos nesaf,” dywedodd prif hyfforddwr Dwayne Peel.
“Mae’n wythnos fawr, nid yn unig y gêm, ond y gwaith i adeiladu at hynny hefyd. Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr.”
Mae tocynnau ar werth nawr i’r cyhoedd ar-lein ar tickets.scarlets.wales neu trwy’r Swyddfa Docynnau ar 01554 292939. Bydd y Swyddfa ar agor ar Ddydd Sul o 9-5.
EPCR Challenge Cup draw
Dydd Gwener 7 Ebrill
QF 4: Scarlets (B1) v ASM Clermont Auvergne (HCC 9), Parc y Scarlets (20.00) S4C / BT Sport / beIN SPORTS / SuperSport
Dydd Sadwrn 8 Ebrill
QF 1: RC Toulon (A1) v Lyon (HCC 9), Stade Félix Mayol (13.30) France TV / beIN SPORTS / BT Sport / SuperSport
QF 2: Benetton Rugby (B2) v Rygbi Caerdydd (A3), Stadio Comunale di Monigo (16.00) epcrugby.tv / BT Sport / beIN SPORTS / SuperSport
QF 3: Glasgow Warriors (A2) v Emirates Lions (B3), Scotstoun (20.00) BT Sport / SuperSport / beIN SPORTS