Dyddiadau ac amseroedd wedi’i gadarnhau ar gyfer Cwpan yr Enfys

GwenanNewyddion

Mae’r dyddiadau ac amseroedd ar gyfer y tair rownd gyntaf o Gwpan yr Enfys Guinness PRO14 wedi’i gadarnhau.

Bydd y Scarlets yn teithio i lawr yr M4 i wynebu’r Dreigiau yn Rodney Parade gan chwarae’r gêm ddiwethaf yn y rownd agoriadol ar ddydd Sul, Ebrill 25 gyda’r gic gyntaf am 13:00.

Yn yr ail rownd, bydd y Scarlets yn chwarae’r Gweilch ym Mharc y Scarlets ar Fai’r 8fed gyda’r gêm yn cychwyn am 19:35 ac wedyn yn chwarae Gleision Caerdydd eto yn Llanelli ar ddydd Sul, Mai 16 (13:00).

Bydd cadarnhad ar gyfer rowndiau pedwar i chwech i ddod pan fydd Rygbi PRO14 wedi derbyn pob cymeradwyaeth a chadarnhad gan y llywodraethau a’r awdurdodau iechyd priodol er mwyn i’r timau De Affrig teithio.

Rd 1 – Dydd Sul, Ebrill 25

Dreigiau v Scarlets – GC 13:00 (Rodney Parade)

Rd 2 – Dydd Sadwrn, Mai 8

Scarlets v Gweilch – GC 19:35 (Parc y Scarlets)

Rd 3 – Dydd Sul, Mai 16

Scarlets v Gleision Caerydd – GC 13:00 (Parc y Scarlets)

Rd 4: Penwythnos Mai 29

Rd 5: Penwythnos Mehefin 5

Rd 6: Penwythnos Mehefin 12

Rownd Derfynol: Penwythnos Mehefin 19