Wrth i rygbi proffesiynol yn Ewrop ddechrau dod i’r amlwg o gyfnod hynod heriol i glybiau a chefnogwyr fel ei gilydd, mae EPCR wrthi’n cwblhau manylion cytundeb cyfranddalwyr newydd gan gynnwys fformat twrnamaint newydd a gwell ar gyfer tymor 2022-23 a thu hwnt.
Cyn cyhoeddi’r cytundeb hwnnw yn y dyfodol, bydd 2021-22 yn gweld rhai addasiadau i fformat Cwpan Pencampwyr Heineken a Chwpan Her, ac er mwyn cynorthwyo gyda blaengynllunio ei randdeiliaid, mae’n bleser gan EPCR gyhoeddi’r dyddiadau allweddol ar gyfer twrnameintiau’r tymor nesaf.
Wedi’i chwarae dros naw penwythnos, bydd Cwpan Pencampwyr a Chwpan Her Heineken 2021-22 yn cychwyn ym mis Rhagfyr nesaf gyda’r olaf o bedair rownd wedi’i drefnu ar gyfer penwythnos 21/22/23 Ionawr 2022.
Bydd y rowndiau ‘knockout’ yn cychwyn ar benwythnos 8/9/10 Ebrill 2022 gyda Rownd o 16 a fydd yn cael ei chwarae dros ddwy gêm, un gartref ac oddi cartref, ac yna rownd yr wyth olaf a rownd gynderfynol, gyda rowndiau terfynol Marseille yn mynd ymlaen ar benwythnos 27/28 Mai 2022.
Dywedodd Prif Weithredwr EPCR, Vincent Gaillard: “As we put the finishing touches to a brand new shareholder agreement which promises to be positive for everyone involved in our tournaments, we are continuing to refine and develop the Heineken Champions Cup and Challenge Cup, and next season will see a return to a full series of massively exciting and competitive matches across Europe,”
Fel y cyfeiriwyd o’r blaen, bydd 24 clwb – gan gynnwys wyth cynrychiolydd o bob un o Uwch Gynghrair Gallagher, TOP 14 a Guinness PRO14 – yn cystadlu yng Nghwpan Pencampwyr Heineken 2021/22. Bydd pob clwb cymwys a’u safle yn cael ei gadarnhau’n swyddogol unwaith y bydd cystadlaethau domestig y tymor hwn wedi dod i ben.
Mae trafodaethau i gwblhau holl fanylion y fformatau ar gyfer y tymor nesaf, a thymhorau’r dyfodol, o fewn fframwaith y cytundeb cyfranddalwyr newydd, yn parhau, ac mae’r trafodaethau hyn yn cynnwys cyfranogiad clybiau De Affrica yn nhwrnameintiau EPCR yn y dyfodol fel y cyfeiriwyd atynt yng nghyhoeddiad Pencampwriaeth Rygbi Unedig.
Penwythnosau EPCR 2021/22
Rownd 1 – 10/11/12 Rhagfyr Rownd 2 – 17/18/19 Rhagfyr Rownd 3 – 14/15/16 Ionawr 2022 Rownd 4 – 21/22/23 Ionawr 2022 Rownd of 16 (1st leg) – 8/9/10 Ebrill 2022 Rownd of 16 (2nd leg) – 15/16/17 Ebrill 2022 Wyth olaf – 6/7/8 Mai 2022 Cynderfynol – 13/14/15 Mai 2022 Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr – Dydd Gwener 27 Mai 2022; Stade Vélodrome, Marseille Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Heineken – Dydd Sadwrn 28 Mai 2022; Stade Vélodrome, Marseille