Mae’r dyddiadau a’r amseroedd cychwyn ar gyfer darbiau Nadolig y Scarlets wedi’u cadarnhau gan Guinness PRO14.
Bydd Scarlets yn adnewyddu eu cystadleuaeth Gŵyl San Steffan gyda’r Gweilch yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn, Rhagfyr 26 (cic gyntaf 5.15yh), cyn ymgymryd â Gleision Caerdydd a’r Dreigiau yn y flwyddyn newydd.
Bydd Scarlets yn croesawu Dynion Gwent i Barc y Scarlets ddydd Gwener, Ionawr 1 (5.15yh) – yna awn i lawr yr M4 i herio’r Gleision ym Mharc yr Arfau ddydd Sadwrn, Ionawr 8 (3yp).
Gallwch wylio’r tair gêm ar Premier Sports, tra mai S4C fydd y darlledwr ar gyfer gwrthdaro’r Dreigiau.
Gemau Darbi
Rownd 9 – Sad, Rhagfyr 26: Gweilch v Scarlets (5.15yh, Premier Sports; Stadiwm Liberty)
Rownd 10 – Gwe, Ionawr 1: Scarlets v Dragons (5.15yh, S4C, Premier Sports; Parc y Scarlets)
Rownd 11 – Sad, Ionawr 9: Gleision Caerdydd v Scarlets (3yp, Premier Sports; Parc Arfau Caerdydd)