Y canolwr Eddie James am dderbyn ei gap d20 cyntaf i Gymru wrth wynebu Ffrainc yn y trydydd rownd o bencampwriaeth Chwe Gwlad ar ddydd Iau (CG 5yh S4C).
Mae’r canolwr pwerus yn un o’r wyth newid wedi’i neud gan prif hyfforddwr Ioan Cunningham gan ddilyn y golled yn erbyn Iwerddon y tro diwethaf allan. Mae Eddie yn ymuno eu gyd-chwaraewyr yr wythwr Carwyn Tuipulotu a’r haneri Harri Williams a Sam Costelow wedi’u enwi ymysg yr eilyddion.
“Mae’n siawns i roi cyfleoedd i’r bois ac fe rhoddodd y bois o’r fainc llawer o ymdrech i mewn i’r gêm yn erbyn Iwerddon felly maen nhw’n cael cyfle i ddechrau yn y crys,” dywedodd Cunningham.
“Gyda natur y gystadleuaeth, mae’n gyfle i roi teimlad newydd iddi a rhoi cyfle i’r bois sydd heb chwarae llawer – gobeithiwn bod ganddyn nhw digon o egni i ddechrau’r gêm yn dda ac fe gall yr eilyddion dod ar a gorffen y gêm.”
Disgwylir cystadleuaeth brwd yn erbyn Ffrainc wrth i’w chwaraewyr nodedig sefyll allan o’r gêm ail rownd yn erbyn yr Eidal.
“Os edrychwn ar y tabl, rydym yn agos iawn i’m gilydd gyda buddugoliaeth yr un felly gyda’r gemau sydd ar ôl, mae hon yn un bwysig iawn. Rwy’n disgwyl i Ffrainc ddod allan a’i tîm cryfaf,” esboniodd Cunningham.
“Maent yn ochr da iawn gyda llawer o dalent ymysg y chwaraewyr gyda blaenwyr mawr sydd yn athletwyr da, a cefnwyr ffyrnig. Os nad ydych ar dop eich gêm, mae’n rhwydd iawn i gael eich cosbi gyda’r sgôr yn ymestyn yn eich erbyn felly mae’n her arall i’r grwp i weld sut allwn ymateb ar ôl gêm Iwerddon a pa mor gyflym rydym yn gallu dysgu a gobeithio troi hynny rownd mewn amser byr.”
Cymru D20 v Ffrainc D20, Parc yr Arfau, Dydd Iau Gorffennaf 1af, CG 5yh
15 Jacob Beetham (Cardiff Rugby); 14 Daniel John (Exeter Chiefs), 13 Eddie James (Scarlets), 12 Joe Hawkins (Ospreys), 11 Tom Florence (Ospreys); 10 Will Reed (Dragons), 9 Ethan Lloyd (Cardiff Rugby); 1 Garyn Phillips (Ospreys), 2 Oli Burrows (Exeter Chiefs), 3 Lewys Jones (Nevers), 4 Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs), 5 James Fender (Ospreys), 6 Christ Tshiunza (Exeter Chiefs), 7 Alex Mann (Cardiff Rugby – capt), 8 Carwyn Tuipulotu (Scarlets).Replacements: 16 Efan Daniel (Cardiff Rugby), 17 Theo Bevacqua (Cardiff Rugby). 18 Nathan Evans (Cardiff Rugby) 19 Joe Peard (Dragons), 20 Tristan Davies (Ospreys). 21 Harri Williams (Scarlets), 22 Sam Costelow (Scarlets). 23 Carrick McDonough (Dragons). 24 Morgan Richards (Dragons/Pontypridd). 25 Ioan Evans (Pontypridd), 26 Rhys Thomas (Ospreys).