Croesodd tîm datblygedig y Scarlets am bum cais i hawlio’r fuddugoliaeth 29-10 yn erbyn tîm A y Dreigiau ar nos Wener yn Rodney Parade.
Ar ôl y gêm, fe siaradon gyda’r prif hyfforddwr Emyr Phillips i glywed ei farn.
Emyr, mae rhaid dy fod yn hapus iawn gyda’r perfformiad a’r canlyniad yna?
EP: “Dwi’n falch iawn iawn, roedd hi’n gymysgedd da o fois profiadol a bois ifanc. Roedd hi’n wythnos gyffrous iawn ac i’r bois ddod yma a rhoi perfformiad buddugol rydym yn hapus iawn, yn enwedig i’r bois a oedd yn gwisgo’r crys am y tro cyntaf.”
Wyt ti’n credu wnaeth y bois datblygu wrth i’r gêm fynd ymlaen ar ôl ildio’r cais cyntaf?
EP: “Roedd gan y Dreigiau llawer o brofiad yn eu ochr, yn enwedig yn y blaenwyr, ond dwi’n credu fe wnaeth ein bois chwarae’n dda. Cawsom dechreuad anodd ond fe aethon ymlaen yn dda. Fel dywedais o’r blaen, roedd sawl un o’r bois yn gwisgo’r crys am y tro cyntaf gyda Osian Davies a Griff Evans yn dod i mewn i’r tîm o Lanymddyfri, fe ddangosodd y ddau eu potensial yn ystod yr uwch gynghrair Cymraeg ac roedd cael eu cynnwys heddiw yn golygu llawer iddyn nhw i chwarae wrth ochr chwaraewyr rhyngwladol.
Gorffenodd y Scarlets y gêm gyda 14 chwaraewr sydd wedi datblygu trwy’r clwb ar y cae, mae rhaid bod hynny’n bositif i’r tîm hyfforddi?
EP: “O safbwynt academi a datblygu dyna beth sy’n bwysig, nid yn unig i fynd ar y cae ond i berfformio hefyd. Dwi’n credu wnaeth bob un ohonynt perfformio’n dda yn eu safleoedd. Roedd hi’n grêt i weld y bois yn gwisgo’r crys gyda balchder, rhywbeth sy’n amlwg yn bwysig iddyn nhw a’u teuluoedd.”
Beth oedd hi fel i weld Rhys Patchell nôl yn chwarae eto?
EP: “Mae Rhys wedi bod yn grêt trwy’r wythnos, mae wedi gyrru’r safon o fewn y grwp ac roedd hi’n wych i’w weld yn chwarae wrth ochr Archie Hughes, mewnwr 18 oed yn yr Academi. Mae gweld y cyfuniad yna yn gweithio’n dda yn grêt. Roedd Joe Roberts a Tyler Morgan hefyd yng nghanol cae, y ddau yn gweithio’n arbennig gyda Callum Williams a Ryan a Tom Rogers yn y tri ôl. Dwi’n credu wnaeth hyn weithio’n dda iawn, cymysgedd da o fois profiadol a bois ifanc, ac dw i mor falch gyda fel aeth y perfformiad ar y nos.”
Beth yw’r cynllun ar gyfer y gêm yn erbyn y Gweilch wythnos nesaf?
EP: “Bydd y garfan hŷn yn parhau i gynllunio ar gyfer De Affrica felly byddwn mwy na thebyg yn rhoi cyfleoedd i’r bois ifanc a mwy o’r bois academi a grwpiau datblygedig. Gyda’r bwlch yma yn nhymor URC dyma’r amser perffaith i wthio’r bois ifanc.”