Mae Carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Dan 20 World Rugby a fydd yn cymryd lle yn Ffrainc yn ystod mis Mai a Mehefin wedi ei henwi.
Mae pump Scarlet ifanc wedi eu henwi yn y garfan wrth iddynt baratoi ar gyfer y twrnament.
Un o’r pump yw’r canolwr Ioan Nicholas, sydd wedi chwarae deuddeg gêm i’r Scarlets y tymor hwn, ac fe fydd e’n awyddus iawn i barhau â’u ddatblygiad yn Ffrainc.
Yn ymuno ag ef y mae Ryan Conbeer, Corey Baldwin, Dan Davis a Rhys Davies.
Mae Cymru wedi eu henwi yn un o’r grwoiau anoddaf ac fe fyddan nhw’n wynebu Awstralia, Seland Newydd a Siapan.
Fe fydd Geraint Lewis yng ngofal y garfan am y twrnament gyda’r cyn brif hyfforddwr Jason Strange yn ymuno â’r Gleision dros yr haf. Fe fydd Strange yn cynorthwyo hyd nes i’r garfan adael am Ffrainc.
Yn ymuno â’r tîm hyfforddi yn Ffrainc y mae Hyfforddwr Sgiliau’r Scarlets Dai Flanagan.
Dywedodd Geraint John, Pennaeth Perfformiad Rygbi URC; “Mae Dai wedi gwneud gwaith arbennig gyda Geraint a’r garfan Dan 18, yn ogystal â dangos ei ddoniau gyda’r Scarlets felly mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu hyfforddwr Cymreig arall.”
Gemau Cymru dan 20;
Mercher 30ain Mai v Awstralia, Stade de la Mediterranee, Béziers, (20:00 BST)
Sul 3ydd Mehefin v Seland Newydd, Stade de la Mediterranee, Béziers, (15:30)
Iau 7fed Mehefin v Siapan, Stade Aime-Giral, Perpignan (17:30).
Carfan Cymru dan 20:
Blaenwyr: Taine Basham (Dreigiau) Rhys Carre (Gleision Caerdydd) Chris Coleman (Dreigiau) Dan Davis (Scarlets) Rhys Davies (Caerfaddon) Rhys Davies (Scarlets) Ben Fry (Dreigiau) Lennon Greggains (Dreigiau) Iestyn Harris (Gleision Caerdydd) Rhys Henry (Gweilch) Dewi Lake (Gweilch) Alun Lawrence (Cardiff Blu Gleision Caerdydd es) Jack Pope (Penybont) Tommy Reffell (c) (Leicester Tigers) Josh Reynolds (Dreigiau) Max Williams (Dreigiau)
Backs: Corey Baldwin (Scarlets) Dane Blacker (Gleision Caerdydd) Ryan Conbeer (Scarlets) Dewi Cross (Gweilch) Rio Dyer (Dreigiau) Cai Evans (Gweilch) Joe Goodchild (Dreigiau) Ben Jones (Gleision Caerdydd) Harri Morgan (Gweilch) Ioan Nicholas (Scarlets) Ben Thomas (Gleision Caerdydd) Tiaan Thomas-Wheeler (Gweilch)