Evans i arwain tîm A’r Scarlets yn Nulyn

Rob LloydNewyddion

Bydd Shaun Evans yn gapten ar Scarlets A pan fyddan nhw’n herio’r pencampwyr Leinster A yn ail rownd y Cwpan Celtaidd yn Donnybrook dydd Sadwrn (5.30pm c.g).

Mae Evans wedi gwneud y newid o’r rheng ôl i fachwr ac yn gapten ar dîm sy’n edrych i ymateb wedi colled yn y funed olaf y penwythnos diwethaf yn erbyn Ulster yn Llanymddyfri.

Yn ogystal ag Evans, mae asgellwr dan-20 Cymru Tomi Lewis hefyd yn dod i mewn am ei ymddangosiad cyntaf o’r tymor.

Mae Jac Wilson wedi ei ddewis fel maswr, yn bartner i bartner Efan Jones, a groesodd am hat-trick yn Church Bank.

Yn y blaenwyr, mae Osian Davies a Joseph Miles yn cychwyn.

Dywedodd y prif hyfforddwr Richard Kelly: “Mae’n debyg mai Leinster yw’r tîm A orau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rydyn ni’n gwybod y byddan nhw’n gryf, bydd yn her fawr i’n bechgyn godi i’r sialens a herio un o’r goreuon.”

Gall deiliaid tocynnau tymor 2019/20 gael mynediad am ddim i bob gêm gartref yn y Cwpan Celtaidd.

Tîm Scarlets A i herio Leinster A yn Donnybrook, dydd Sadwrn Awst 31, CG 17:30

1.Steff Thomas, 2.Shaun Evans (Capten), 3.Alex Jeffries, 4.Robin Williams, 5.Osian Davies, 

6.Lewys Millin, 7.Joseph Miles, 8.Stuart Worrel, 9.Efan Jones, 10.Jac Wilson,

11.Harri Doel, 12.Rhodri Jones, 13.Osian Knott, 14.Tomi Lewis, 15.Kallum Evans

Eilyddion:

Dom Booth, Kemsley Mathias, Llyr Green, Gethin Davies, Jac Morgan, 

Dafydd Land, Ioan Hughes, Ryan Davies