Fformat Cwpan Heineken 2021-22 wedi’i gadarnhau

Rob LloydNewyddion

Yn dilyn cwblhad o’r tymorhau domestig yn Lloegr a Ffrainc, mae EPCR yn falch i gyhoeddi’r fformat ar gyfer Cwpan Pencampwyr Heineken 2021-22 wrth i’r twrnamaint clybiau elitaidd Ewrop dychwelyd ymysg amserlen 71 o gemau cystadleuol.

Bydd 24 o glybiau yn cystadlu am Gwpan Pencampwyr Heineken gydag wyth o’r gynghrair Gallagher, PRO14 Guinness a’r TOP 14 wedi llwyddo i sicrhau eu safle.

Bydd y clybiau yn cael eu rhannu i mewn i ddau pool o 12 – Pool A a Pool B – trwy broses o dynnu enwau a fydd y twrnamaint yn cael ei chwarae ar hyd naw penwythnos gyda pedwar rownd o gemau pool yn dechrau ym mis Rhagfyr pan fydd Satde Toulousain yn chwarae i gadw ei teitl.

Bydd yr wyth clwb yn  safleoedd uchaf ym mhob pool yn gymwys i’r ‘knockout stage’ sef Rownd o 16. (Gwelwch dyddiadau pwysig isod)

Bydd y broses tynnu enwau yn cael ei wneud yn yr un steil a tymor diwethad gyda’r holl glybiau wedi hrannu i mewn i bedwar haen, gyda chlybiau o’r un gynghrair yn yr un haen ddim yn cael ei dynnu i mewn i’r un pool.

Bydd y ddau clwb wedi’u rhestru yn safle cyntaf ac ail o bob gynghrair yn cael ei roi yn Tier 1, a ddau yn safleoedd 3 a 4 yn Tier 2, a’r pumed a’r chweched clwb yn Tier 3, gyda rhif saith ac wyth yn Tier 4.

 

Bydd y broses tynnu enwau yn cael ei ddarlledu’n fyw ar http://www.heinekenchampionscup.com/ gyda’r dyddiad o’r digwyddiad gyda’r manylion pellach yn cael eu rhannu’n fuan.

Fel y cyhoeddwyd o’r blaen, mae EPCR wrthi’n cwblhau’r trefniadau ar gyfer y cytundeb cyfranddalwyr, ac mae’r trafodaethau am fformat Cwpan Her am dymor 2021/22 yn cael ei gwblhau.

Mae’r trafodaethau yma yn cynnwys timau De Affrig yn cymryd rhan yn nhwrnamaint EPCR fel y cyfeirnodwyd yn ddiweddar gan United Rugby Championship ac ni fydd unrhyw sylw pellach yn cael ei wneud nes iddi fod yn amser priodol.

2021-22 Heineken Champions Cup qualifiers

Gallagher Premiership: 1 Harlequins, 2 Exeter Chiefs, 3 Bristol Bears, 4 Sale Sharks, 5 Northampton Saints, 6 Leicester Tigers, 7 Bath Rugby, 8 Wasps

Guinness PRO14: 1 Leinster Rugby, 2 Munster Rugby, 3 Ulster Rugby, 4 Connacht Rugby, 5 Scarlets, 6 Ospreys, 7 Cardiff Rugby, 8 Glasgow Warriors

TOP 14: 1 Stade Toulousain, 2 Stade Rochelais, 3 Racing 92, 4 Union Bordeaux-Bègles, 5 ASM Clermont Auvergne, 6 Stade Français Paris, 7 Castres Olympique, 8 Montpellier Hérault Rugby

Dyddiadau Pwysig 2021-22 Rownd 1 – 10/11/12 Rhagfyr Rownd 2 – 17/18/19 Rhagfyr Rownd 3 – 14/15/16 Ionawr 2022 Rownd 4 – 21/22/23 Ionawr 2022 Rownd of 16 (1st leg) – 8/9/10 Ebrill 2022 Rownd of 16 (2nd leg) – 15/16/17 Ebrill 2022 Yr wyth olaf – 6/7/8 Mai 2022 Rownd gyn-derfynol – 13/14/15 Mai 2022 Rownd Derfynol Cwpan Her – Dydd Gwener 27 Mai 2022; Stade Vélodrome, Marseille Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Heineken – Dydd Sadwrn 28 Mai 2022; Stade Vélodrome, Marseille