Ffrindiau MJ yn seiclo i godi arian i Felindre

GwenanNewyddion

Bydd ffrindiau y diweddar Matthew J. Watkins yn dathlu penblwydd y cyn-ganolwr i Gymru yn 43 dros y penwythnos wrth seiclo i godi arian i Ganolfan Canser Felindre.

Bydd y grwp yn seiclo 150km mewn un diwrnod, gan ymweld â chlybiau oedd yn agos at galon Watkins yn ystod ei fywyd. Gan ddechrau’r daith ym Mharc y Scarlets, cartref y tîm wnaeth Watkins helpu i ennill teitl y gynghrair Celtaidd yn 2003/04, gan fynd tuag at y Dwyrain i Stadiwm y Principality – lle wnaeth ‘MJ’ wneud naw o’i 18 ymddangosiad i Gymru, gan gynnwys y fuddugoliaeth enwog yn erbyn y Wallabies yn 2005.

O’r brif ddinas, bydd y tîm yn teithio i Gasnewydd a Rodney Parade, lle yn 2018 cafodd Watkins ei dderbyn i mewn i’r ‘Hall of Fame’. Y rhan nesaf o’r siwrne fydd yn mynd a’r grwp tuag at Dyffryn Sirhywi lle oedd man cychwyn gyrfa MJ, wedyn yn teithio trwy Pontllanfraith RFC cyn gorffen yng Nghlwb Rygbi Oakdale lle roedd Watkins yn treulio llawer o’i amser yn hyfforddi ei feibion Sior a Tal yn eu tîm rygbi.

Datganiad ar dudalen The Matthew J. Watkins Tribute Fund sydd ar wefan Felindre: “‘MJ’ inspired so many people over his life and his legacy continues to do the same. A larger than life character that left a lasting impression on everyone he met. A great family man. A true friend to many. Someone that is sorely missed. As most of you are aware, just over a year ago, our friend lost his long fight to cancer. The loss has affected us all greatly.

“Over the last seven years of his life, MJ has inspired so many friends and family to take up a charitable cause and in particular the support for Velindre Cancer Centre. Over the last few years we were lucky enough to experience some life-changing experiences and meet some truly inspirational people and we have MJ to thank for this.”

Cyfrannwch at Gronfa Matthew J. Watkins yma