Bydd Vaea Fifita yn ymddangos am y tro cyntaf yng nghrys Scarlets yn ystod gêm gyfeillgar Dydd Gwener yn erbyn Bristol Bears ym Mharc y Scarlets (7yh).
Ymunodd o’r Wasps yn ystod yr haf, ac mae’r chwaraewr 30 oed wedi’i enwi yn yr ail reng mewn rhestr o XV sy’n cynnwys naw chwaraewr rhyngwladol.
Dau ohonynt wedi’u henwi yn y tri ôl gyda Tom Rogers fel cefnwr a Steff Evans ar yr asgell. Ryan Conbeer sydd wedi’i enwi ar yr asgell arall.
Yn arwain o ganol cae mae Jonathan Davies wrth ochr Scott Williams, wrth i Sam Costelow a Dane Blacker cychwyn fel ein haneri.
Yn y rheng flaen mae Steff Thomas wedi’i enwi fel prop pen rhydd ac wrth ei ochr mae’r bachwr Daf Hughes a Javan Sebastian ar y pen tynn.
Tom Price sydd yn bartner i Fifita fel clo wrth i Blade Thomson, Tomas Lezana a Sione Kalamafoni cwblhau rheng ôl ryngwladol.
Mae’r prif hyfforddwr Dwayne Peel wedi enwi 13 chwaraewr ymysg yr eilyddion gan gynnwys chwaraewyr newydd Iwan Shenton a Griff Evans ynghyd chwaraewyr gynt o Academi’r Scarlets Luca Giannini, Archie Hughes ac Eddie James.
O ran anafiadau, mae Leigh Halfpenny a Ken Owens yn parhau eu hadferiad, wrth i Jac Price, Shaun Evans, Joe Roberts a Dan Davies parhau i wella o lawdriniaethau dros gyfnod yr haf.
SCARLETS v Bristol Bears (Dydd Gwener, Medi 2; Parc y Scarlets; 7yh)
15 Tom Rogers; 14 Steff Evans, 13 Jonathan Davies (capt), 12 Scott Williams, 11 Ryan Conbeer; 10 Sam Costelow, 9 Dane Blacker; 1 Steff Thomas, 2 Daf Hughes, 3 Javan Sebastian, 4 Vaea Fifta, 5 Tom Price, 6 Blade Thomson, 7 Tomás Lezana, 8 Sione Kalamafoni
Eilyddion: Phil Price, Taylor Davies, Alex Jeffries, Morgan Jones, Josh Helps, Griff Evans, Luca Giannini, Iwan Shenton, Archie Hughes, Dan Jones, Eddie James, Corey Baldwin, Ioan Nicholas.