Gwibiwr y Scarlets Tom Rogers wedi derbyn clod gan capten newydd Cymru Jonathan Davies am ei dalent o flaen gêm dydd Sadwrn yn erbyn Canada yng Nghaerdydd.
Mae Davies wedi canmol gwaith Rogers ym Mharc y Scarlets gyda’i gydchwaraewyr Leigh Halfpenny a Liam Williams yn chwarae rhan mawr yn ei cynnydd ar hyd y tymor.
“Mae’n dalent enfawr,” dywedodd canolwr y Scarlets am y chwaraewr 22 oed Rogers, a fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn Stadiwm y Principality.
“Un o’r pethau sydd wedi fy nharo mwyaf yw dyma’i flywddyn cyntaf o rygbi hyn, ac wedi pigo lan lot o bethau wrth Leigh a Liam.
“Gallwch weld ei gynnydd, ac mae ei frwdfrydedd yn grêt.
“Mae Tom yn deall beth sydd angen i gyrraedd y lefel uchaf, ac mae ganddo dau fentor ardderchog yn Leigh a Liam, ac mae Tom wedi gwneud y mwyaf o hynny. Dyna beth oedd angen iddo wneud.”