Galwad Cymru i Tom a Foxy wedi’i enwi yn gapten

Rob LloydNewyddion

Mae Tom Rogers wedi’i alw i fyny i garfan Cymru ar gyfer gemau’r haf am gyfres yr haf yn erbyn yr Ariannin a Canada fel un o’r pump Scarlets sydd wedi’u henwi yng ngharfan 34 dyn Wayne Pivac.

Mae Rogers wedi mwynhau tymor gwych gyda’r Scarlets gan sgori gais unigol yn ystod y gêm gofiadwy yn erbyn Connacht i sicrhau ein safle yng Nghwpan Pencampwyr tymor nesaf.

Mae’r chwaraewr 22 oed yn ymuno â Leigh Halfpenny, Jonathan Davies, Kieran Hardy a Ryan Elias.

Bydd Pencampwyr y Chwe Gwlad 2021 yn chwarae tair gêm gartref yn erbyn Canada a’r Ariannin ym mis Gorffennaf wrth i Pivac ddewis carfan sydd yn gymysg o brofiad ac ieuenctid wrth iddo barhau i baratoi ar gyfer Cwpan y Byd 2023.

Mae Jonathan Davies wedi’i enwi yn gapten, rôl sydd yn gyfarwydd iddo ar ôl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019 yn erbyn yr Eidal, wrth i Halfpenny cronni 99 o gapiau (gan gynnwys ei bedwar cap i’r Llewod).

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at yr haf, gan weithio gyda’r garfan yma a’r tair gêm prawf cartref,” dywedodd Pivac.

“Mae’n grêt ein bod yn gallu dewis pum chwaraewr di-gap yn y garfan. Mae’n gyfle sy’n debyg i ymgyrch yr Hydref llynedd, lle gallwn roi’r chwaraewyr yma mewn amgylchedd newydd i’w paratoi ar gyfer gemau prawf.

“Nad yw’r haf amdano’r chwaraewyr di-gap yn unig ond mae hefyd yn golygu mwy o brofiad i’r chwaraewyr rhyngwladol. Mae’n gyfle iddyn nhw ddechrau’n fwy cyson a chael mwy o ymddangosiadau a chamu i fyny o ran arweiniant wrth iddi fod yn gyfnod pwysig i ni.

“Bydd gennym wersyll ymarfer yn Ogledd Cymru cyn dychwelyd i Gaerdydd ar gyfer y tri phrawf felly mae’n gyfnod da o amser i dreulio gyda’i gilydd.

“Wrth i lwyddiant y Chwe Gwlad rhedeg ar ein cof mae’n bwysig i ni gofio i barhau i adeiladu ar ein gêm a dyfnder wrth edrych ymlaen at CYB 2023.”

BLAENWYR (19)

Rhodri Jones , Nicky Smith, Gareth Thomas (all Ospreys), Elliot Dee (Dragons), Ryan Elias (Scarlets), Sam Parry (Ospreys), Leon Brown (Dragons), Tomas Francis (Exeter Chiefs), Dillon Lewis (Cardiff), Adam Beard (Ospreys), Ben Carter (Dragons), Cory Hill (Cardiff), Will Rowlands (Wasps), Taine Basham (Dragons), James Botham (Cardiff), Ross Moriarty (Dragons), Josh Navidi (Cardiff), Josh Turnbull (Cardiff), Aaron Wainwright (Dragons).

CEFNWYR (15)

Kieran Hardy (Scarlets), Tomos Williams (Cardiff), Rhodri Williams (Dragons), Callum Sheedy (Bristol Bears), Jarrod Evans (Cardiff), Jonathan Davies (Scarlets; capt), Willis Halaholo (Cardiff), Nick Tompkins (Saracens), Ben Thomas (Cardiff), Hallam Amos (Cardiff), Leigh Halfpenny (Scarlets), Jonah Holmes (Dragons), Owen Lane (Cardiff), Ioan Lloyd (Bristol Bears), Tom Rogers (Scarlets).