Gareth Davies yn chwifio banner y Scarlets yn erbyn Stormers

Rob LloydNewyddion

Mewnwr y Scarlets Gareth Davies wedi’i enwi ar y fainc ar gyfer y Llewod wrth iddyn nhw wynebu’r DHL Stormers ar ddydd Sadwrn yn Cape Town (cic gyntaf 5yp BST).

Fe ddaeth Davies oddi’r fainc yn ystod y gêm 17-13 yn erbyn tîm ‘A’ De Affrica ac fydd yn gobeithio i adael ei farc ar ei bedwerydd ymddangosiad ar y daith.

Dyma fydd y gêm diwethaf o’r daith cyn i’r gemau Prawf ddecrhau yn erbyn y Springbok ac mae’n cael ei ddarlledu’n fyw ar Sky Sports.

“Mae’n gêm bwysig oherwydd dyma’r cyfle olaf i’r grwp hyfforddi i weld y chwaraewyr perfformio cyn i’r gemau Prawf cychwyn,” dywedodd prif hyfforddwr y Llewod Warren Gatland.

O ran y 23, dyma’r cyfle olaf iddyn nhw profi eu gallu ar gyfer y Prawf, felly dwi’n disgwyl i weld grwp o ddynion llawn cymhelliant.

“Yn amlwg does dim llawer o amser i baratoi ar ôl y gêm diwethaf, ond rydym mewn cyflwr da. Roedd y gêm yn erbyn tîm ‘A’ De Affrica yn gorfforol iawn – roedd y grwp yn disgwyl hynny – ond rydym wedi dod allan yn weddol di-anaf ac yn barod i fynd eto. Bydd Liam Williams yn cychwyn y broses dychwelyd i chwarae yn dilyn ei asesiad ar anaf i’w ben.”

DHL STORMERS v Y LLEWOD

15. Stuart Hogg (Exeter Chiefs, Scotland); Josh Adams (Cardiff, Wales),  13. Elliot Daly (Saracens, England), 12. Robbie Henshaw (Leinster Rugby, Ireland), 11. Duhan van der Merwe (Worcester Warriors, Scotland), 10. Marcus Smith (Harlequins, England);  9. Ali Price (Glasgow Warriors, Scotland); 1. Rory Sutherland (Worcester Warriors, Scotland),  2. Luke Cowan-Dickie (Exeter Chiefs, England), 3. Tadhg Furlong (Leinster Rugby, Ireland), 4. Adam Beard (Ospreys, Wales),  5. Jonny Hill (Exeter Chiefs, England), 6. Tadhg Beirne (Munster Rugby, Ireland), 7. Hamish Watson (Edinburgh Rugby, Scotland), 8. Jack Conan (Leinster Rugby, Ireland).

Replacements: 16. Jamie George (Saracens, England), 17. Mako Vunipola (Saracens, England), 18. Zander Fagerson (Glasgow Warriors, Scotland),  19. Alun Wyn Jones (Ospreys, Wales),  20. Sam Simmonds (Exeter Chiefs, England),  21. Gareth Davies (Scarlets, Wales),  22. Chris Harris (Gloucester Rugby, Scotland),  23. Louis Rees-Zammit (Gloucester Rugby, Wales).