Bydd Gareth Davies am wneud ei 200fed ymddangosiad i’r Scarlets ar ôl iddo gael ei henwi yn yr ochr i wynebu Caerfaddon yn gêm Cwpan Pencampwyr Heineken ar ddydd Sadwrn (gc 15:15; BT Sport).
Fe ymddangosodd am y tro cyntaf 11 mlynedd yn ôl ac mae’n ymuno â grŵp o chwaraewyr elitaidd sydd wedi cyrraedd y garreg filltir hon.
Mae Davies yn un o’r naw chwaraewr rhyngwladol a gymerodd rhan yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref sydd wedi’i chynnwys yn yr XV i ddechrau.
Cefnwr Cymru a’r Llewod Leigh Halfpenny sydd yn ymuno â Ryan Conbeer a Steff Evans fel y tri ôl. Tyler Morgan a Steff Hughes sydd yng nghanol cae sydd yn parhau fel capten. Davies a Dan Jones fydd yr haneri.
Y rheng flaen ryngwladol o Wyn Jones, Ryan Elias a Samson Lee wrth i Jake Ball ymuno â Sam Lousi yn yr ail reng.
Yr unig newid i’r rheng ôl yw Blade Thomson sydd yn dod i mewn fel blaenasgellwr wrth ochr yr wythwr Sione Kalamafoni a Jac Morgan.
Ymysg yr eilyddion mae Rob Evans, Marc Jones a Javan Sebastian ar gyfer y rheng flaen, y clo 21 oed Morgan Jones fydd yn gwneud ei ymddangosiad Ewropeaidd cyntaf os yw’n dod oddi’r fainc, wrth i Josh Macleod wella o’i anaf llinyn y gar a gafwyd ym mis Hydref. Kieran Hardy, Angus O’Brien a Jonathan Davies sydd ar y fainc i’r tri ôl.
Anafiadau sydd yn cadw allan chwaraewyr rhyngwladol Johnny Williams, Liam Williams, Rhys Patchell, James Davies a Johnny McNicholl, a wnaeth ffaelu prawf ffitrwydd am fater asen.
Mae’r chwaraewyr a wnaeth brofi’n bositif am Covid-19 rhai wythnosau yn ôl ar hyn o bryd yn cwblhau rhaglen dychwelyd-i-chwarae gan ddilyn canllawiau iechyd cyhoeddus ac nad oedden ar gael i chwarae.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney: “Mae cynnal parhad wedi bod yn bwysig wrth ddewis y chwaraewyr a gwobrwyo am eu ffurf yn yr wythnosau yn arwain at ddechrau Cwpan y Pencampwyr.
“Yn anffodus, mae rhai o’r bois wedi dychwelyd o’r gamp gydag anafiadau ac felly bydd angen monitro hynny dros yr wythnos sydd i ddod. Er hynny, rydym wedi cael wythnos dda; roedd hi’n braf i gael gweddill y bois yn ôl ar ddydd Iau ac rydym yn edrych ymlaen at weld beth sydd i ddod wrth gystadlu yn un o’r lleoliadau gorau yn y gystadleuaeth.
“Rydym yn ymwybodol o faint mae’r gystadleuaeth Ewropeaidd yn golygu i’r Scarlets ac i’n cefnogwyr. Rydym yn caru’r gystadleuaeth hon, a rhoi ein gorau glas iddi.”
Scarlets (v Caerfaddon, Dydd Sadwrn, Rhagfyr 12)
15. Leigh Halfpenny; 14. Ryan Conbeer, 13. Tyler Morgan, 12. Steff Hughes (capt), 11. Steff Evans; 10. Dan Jones, 9. Gareth Davies; 1. Wyn Jones, 2. Ryan Elias, 3. Samson Lee, 4. Jake Ball, 5. Sam Lousi, 6. Blade Thomson, 7. Jac Morgan, 8. Sione Kalamafoni
Reps: 16. Marc Jones, 17. Rob Evans, 18. Javan Sebastian, 19. Morgan Jones, 20. Josh Macleod, 21. Kieran Hardy, 22. Angus O’Brien, 23. Jonathan Davies.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Ken Owens (shoulder), Liam Williams (ankle), Johnny Williams (calf), Johnny McNicholl (ribs), Lewis Rawlins (neck), Tomi Lewis (knee), Alex Jeffries (elbow), Tom Phillips (hip), Dylan Evans (shoulder), Taylor Davies (shoulder), Rhys, Patchell, James Davies, Aaron Shingler.