Mae prop y Scarlets Javan Sebastian ar drywydd i wneud ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn ystod gêm yr Alban yn erbyn Japan yn BT Murrayfield ar Ddydd Sadwrn.
Mae’r prop pen tynn 27 oed wedi’i gynnwys yn y 23 am y tro cyntaf, ac wedi’i enwi ymysg dau blaenwr di-gap ar y fainc.
Mae Javan yn gymwys i chwarae i’r Alban trwy ei dad, sydd yn wreiddiol o Gaeredin.
Mae’r galwad yn rhan o wythnos pwysig i’r chwaraewr o Gaerfyrddin, wrth iddo groesawu babi newydd i’w deulu ar Ddydd Mercher.