Mae Sam Lousi wedi’i wahardd am gyfnod o bedair wythnos o ganlyniad i’w gerdyn coch yng ngem Guinness PRO14 yn erbyn Glasgow Warriors.
Dangoswyd cerdyn coch i Lousi gan y dyfarnwr Frank Murphy (IRFU) o dan Gyfraith 9.13 – rhaid i Chwaraewr beidio â mynd i’r afael â gwrthwynebydd yn gynnar, yn hwyr nac yn beryglus. Mae taclo peryglus yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, daclo, neu geisio taclo gwrthwynebydd uwchben llinell yr ysgwydd hyd yn oed os yw’r dacl yn cychwyn o dan linell yr ysgwyddau.
Ymdriniwyd â’r gwrandawiad disgyblu gan Roddy Dunlop (Yr Alban) a derbyniwyd bod gweithredoedd y chwaraewr yn cyfiawnhau cerdyn coch ar gyfer chwarae budr. Barnwyd bod y digwyddiad yn drosedd canol-ystod, sy’n cario ataliad o chwe wythnos.
Oherwydd cofnod disgyblu blaenorol y chwaraewr (cerdyn coch ar gyfer digwyddiad dyrnu, Chwefror 2020) ni allai’r swyddog barnwrol gynnig lliniaru llawn felly, gan arwain at ataliad o bedair wythnos.
Mae Sam yn rhydd i ailddechrau chwarae o hanner nos ar Dachwedd 9, 2020.