Gwersyll Hanner Tymor – archebwch nawr

Kieran LewisNewyddion

Fe fydd Scarlets yn y Gymuned yn cynnal tri gwersyll rygbi dros wyliau’r Pasg i fechgyn a merched rhwng chwech ac 16 mlwydd oed. Gwnewch yn siwr eich bod chi #ynypac!

Mae’r gwersylloedd, a gynhelir ym Mharc y Scarlets, yn rhoi cyfle i chwaraewyr rygbi ifanc i ddatblygu eu sgiliau gyda Hyfforddwyr Sgiliau’r Scarlets ynghyd â rhai o sêr y rhanbarth.

Gwersyll Rygbi 2 Ddiwrnod – Cymysg

Mae ein gwersyll dau-ddiwrnod yn boblogaidd tu hwnt ac yn un o ddyddiadau mawr yng nghalendr Scarlets yn y Gymuned ac mae’n ôl ar gyfer gwyliau’r Pasg!!

    • Mawrth 3ydd & Mercher 4ydd Ebrill, 10:00-15:00
  • Bechgyn a merched rhwng 6 ac 11 mlwydd oed (hyd at blwyddyn ysgol 6)
  • £40 y pen am ddau ddiwrnod / £25 y pen am un diwrnod.
  • Crys-t y Scarlets
  • Cyfle i gyfarfod y chwaraewyr a chasglu llofnodion
  • I archebu lle ar unrhyw un o’r Gwersylloedd Pasg cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39 neu ebostiwch [email protected].
  • Cyfle i gyfarfod y chwaraewyr a chasglu llofnodion*

Gwersyll Rygbi Merched yn Unig

Yn dilyn llwyddiant un o wesrylloedd merched yn unig mwyaf erioed ry’n ni’n falch iawn cadarnahu y bydd yn ôl dros wyliau’r Pasg ac ry’n ni’n gobeithio gweld gwersyll hyd yn oed yn fwy tro yma!

    • Gwener 6ed Ebrill, 10:00-13:00
  • Merched 6-15 mlwydd oed
  • £15 y pen
  • Crys-t y Scarlets
  • Cyfle i gyfarfod y chwaraewyr a chasglu llofnodion
  • I archebu lle ar unrhyw un o’r Gwersylloedd Pasg cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39 neu ebostiwch [email protected].
  • Cyfle i gyfarfod rhai o’r chwaraewyr

Gwersyll Rygbi Ieuenctid

Yn dilyn galw mawr ry’n ni’n falch iawn cyflwyno Gwersyll Rygbi i fechgyn 11-16 mlwydd oed, Blwyddyn Ysgol 7-11.

    • Llun 9fed Ebrill, 10:00-15:00
  • Bechgyn rhwng 11 ac 16 mlwydd oed
    • £25 y pen (£20 y pen pan yn archebu cyn 23ain Mawrth)
  • Crys-t y Scarlets
  • Taith ôl i’r llenni ym Mharc y Scarlets
  • Cyfle i gyfarfod y chwaraewyr a chasglu llofnodion
  • I archebu lle ar unrhyw un o’r Gwersylloedd Pasg cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39 neu ebostiwch [email protected].
  • Cyfle i gyfarfod rhai o’r chwaraewyr

.

Does dim rheidrwydd y bydd y plant yn cyfarfod y chwaraewyr os yn mynychu un diwrnod yn unig