Mae’r Scarlets wewdi gallu galw ar y profiadol Leigh Halfpenny ar gyfer gêm prynhawn Sadwrn yn erbyn ei gyn dîm Gleision Caerdydd.
Daw Halfpenny yn ôl i’r cae ar ôl dioddef cyfergyd yn erbyn Awstralia yng nghyfres yr hydref gyda Chymru.
Mae tocynnau i’r gêm ar gael nawr o tickets.scarlets.wales
Fe fydd y rhanbarth yn gobeithio rhoi’r tymor Guinness PRO14 yn ôl ar y cledrau ar ôl colli’n erbyn y Gweilch penwythnos diwethaf.
Gyda Halfpenny yn dychwelyd mae Johnny McNicholl yn cadw ei le ar yr asgell gyda Rhys Patchell yn absennol yn dilyn anaf yn y gêm diwethaf. Mae Gareth Davies a Hadleigh Parkes yn cadw eu llefydd yn safle’r mewnwr a maswr gyda Jonathan Davies a Kieron Fonotia yng nghanol cae.
Yn dilyn anaf i’w ysgwydd nid yw Jake Ball ar gael ac fe ddaw Josh Helps i’r ail reng ochr yn ochr â David Bulbring. Does dim newidiadau i weddill y pac.
Wrth edrych ymlaen i’r gêm yn erbyn Gleision Caerdydd dydd Sadwrn ym Mharc y Scarlets, dywedodd Wayne Pivac; “Ry’n ni’n edrych ar ein hunain a sicrhau bod ein gêm ni’n iawn. Maent wedi profi canlyniadau da a mwy na thebyg rhai nad ydynt yn hapus a nhw.
“Mae’r ddau dîm yn dod i mewn i’r gêm yn deall ei phwysigrwydd. Mae’n gêm y mae’n rhaid i ni ennill. Mae’n gêm gartref ac mae gyda ni record balch ac ry’n ni eisiau gweld hwn yn parhau.
“Ry’n ni’n eu gweld nhw fel gwrthwynebwyr peryglus oherwydd ei fod yn gêm ddarbi. Mae lot i chwarae amdano.”
Wrth ymateb i’r adran; “Wrth edrych ar ein hunain, Ulster, Caeredin, Benetton a’r hyn sydd i ddod mae’n mynd i fod yn ddiweddglo diddorol.”
Tîm y Scarlets i wynebu Gleision Caerdydd ym Mharc y Scarlets, Sadwrn 29ain Rhagfyr cic gyntaf 17:15;
15 Leigh Halfpenny, 14 Tom Prydie, 13 Jonathan Davies, 12 Kieron Fonotia, 11 Johnny McNicholl, 10 Hadleigh Parkes, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Josh Helps, 5 David Bulbring, 6 Ed Kennedy, 7 James Davies, 8 Will Boyde
Replacements; 16 Ryan Elias, 17 Wyn Jones, 18 Werner Kruger, 19 Tom Price, 20 Dan Davis, 21 Kieran Hardy, 22 Dan Jones, 23 Paul Asquith
Anafiadau
Rhys Patchell – llinyn y gâr, Jake Ball – ysgwydd, Lewis Rawlins – ysgwydd, Steve Cummins – ysgwydd, Uzair Cassiem – ysgwydd, Tom Phillips – cyfergyd, Blade Thomson – cyfrgyd, Josh Macleod – troed, Angus O’Brien – penglin, Aaron Shingler – penglin, Jonathan Evans – troed