Mae Rowland Phillips, Prif Hyfforddwr Menywod Cymru, wedi enwi tîm ar ei newydd wedd i wynebu Hong Kong ym Mharc yr Arfau nos Wener, cic gyntaf 19:00.
Yn arwain y tîm y bydd wythwr Menywod y Scarlets Sioned Harries ac fe fydd yna dair o’r Scarlets yn ymuno â hi yn y 23 ar gyfer y gêm. Mae wyth newid i’r tîm a ddechreuodd yn erbyn De Affrica dros y penwythnos gyda Chymru yn sicrhau buddugoliaeth 19-5.
Tîm Menywod Cymru i wynebu Hong Kong, Gwener 16 Tachwedd 19:00, Parc yr Arfau; Lauren Smyth (Gweilch); Jasmine Joyce (Scarlets), Alecs Donnovan (Gweilch), Alicia McComish (Dreigiau), Lisa Neumann (RGC); Robyn Wilkins (Gleision Caerdydd), Ffion Lewis (Scarlets); Cara Hope (Gweilch), Kelsey Jones (Gweilch), Cerys Hale (Dreigiau), Gwen Crabb (Gweilch), Mel Clay (Gweilch), Manon Johnes (Gleision Caerdydd), Bethan Lewis (Dreigiau), Sioned Harries (capt, Scarlets) Eilyddion;Carys Phillips (Gweilch), Caryl Thomas (Dreigiau), Amy Evans (Gweilch), Natalia John (Gweilch), Siwan Lillicrap (Gweilch), Keira Bevan (Gweilch), Hannah Jones (Scarlets) Jess Kavanagh (RGC);
.
Gemau Menywod Cymru Gwener 16eg Tachwedd Menywod Cymru v Hong Kong Sadwrn 24ain Tachwedd Menywod Cymru v Canada 11:30 Tocynnau £5 i oedolion, £1 i consesiwn a myfyrwyr, ar gael o swyddfa docynnau Gleision Caerdydd ac ar y we o https://www.eticketing.co.uk/cardiffblues/Events/Index