Bydd chwaraewr D20 Cymru Harry Thomas yn arwain tîm ifanc o Scarlets i mewn i gêm agoriadol o gemau cyfeillgar yn erbyn Cwins Caerfyrddin ar Ddydd Sadwrn (14:30).
Mae’r chwaraewr 19 oed yn gapten ar ochr sydd ond yn cynnwys un chwaraewr dros 22.
Thomas sydd wedi’i enwi’n fachwr mewn rheng flaen sy’n cynnwys Jamie Hughes – chwaraewr Llanymddyfri a ymddangosodd yn erbyn Caerwysg tymor diwethaf – a’r prop pen tynn newydd Gabe Hawley.
Deuawd yr Academi Hŷn Will Evans ac Ollie Close fydd yn cydweithio yn yr ail reng, wrth i Will Plessis cael ei enwi yn y rheng ôl gydag aelodau o’r garfan hŷn, Carwyn Tuipulotu a Ben Williams.
Llawer o dalent gyffrous ifanc wedi’u henwi ymysg yr olwyr.
Chwaraewr newydd y Scarlets Rhodri Lewis – sydd wedi ymddangos yng ngharfan D20 Cymru yn Ne Affrica dros yr haf – sydd yn dechrau yng nghrys rhif 9 ac yn bartner i Elis Price, brawd ifancaf y chwaraewr ail reng Jac Price.
Fe all y brodyr Price, y ddau wedi datblygu trwy system ieuenctid y Cwins, ddod y brodyr diweddaraf i chwarae yn yr un tîm os fydd Jac yn dod oddi’r fainc ar Ddydd Sadwrn.
Macs Page a Gabe McDonald sy’n bartneriaid yng nghanol cae, wrth i’r tri ôl cael ei gyfuno gan Iori Badham, Jac Davies a Ellis Mee – chwaraewr newydd sydd wedi ymuno dros yr haf o Nottingham.
Mae’r fainc yn cynnwys aelodau o’r garfan hŷn Sam Wainwright, Jac Price, Jarrod Taylor, Efan Jones, bachwr D20 Cymru Isaac Young, yn ogystal â phrop yr Academi Tom Phillips, chwaraewr rheng ôl Joe Denman a’r maswr Ellis Payne a’r gwibiwr Callum Woolley, y pedwar yn barod am eu hymddangosiadau cyntaf.
Bydd carfan gyfan y Scarlets yn bresennol ym Mharc Caerfyrddin i helpu’r Cwins i ddathlu ei 150fed tymor felly dewch draw am lun neu lofnod.
Mae mynediad yn £12 i oedolion, £8 i’r henoed ac am ddim i blant o dan 16.
Tîm y Scarlets i chwarae Cwins Caerfyrddin (Parc Caerfyrddin; 14:30)
15 Ellis Mee; 14 Jac Davies, 13 Macs Page, 12 Gabe McDonald, 11 Iori Badham; 10 Elis Price, 9 Rhodri Lewis; 1 Jamie Hughes, 2 Harry Thomas (capt), 3 Gabe Hawley, 4 Ollie Close, 5 Will Evans, 6 Will Plessis, 7 Ben Williams, 8 Carwyn Tuipulotu.
Eilyddion: 16 Isaac Young, 17 Tom Phillips, 18 Sam Wainwright, 19 Jac Price, 20 Jarrod Taylor, 21 Joe Denman, 22 Efan Jones, 23 Ellis Payne, 24 Steff Jac Jones, 25 Callum Woolley