Mae’r Scarlets yn falch iawn i gyhoeddi apwyntiad Hugh Hogan fel ei hyfforddwr amddiffyn newydd.
Mae Hugh wedi treulio amser gyda tîm Leinster yn y Guinness PRO14 ers 2018 ac roedd yn brif hyfforddwr i dimau D19. D20 a thîm ‘A’ y talaith ac wedi derbyn clod am ddatblygiad amddifynol Leinster.
Yn gyn chwaraewyr rheng ôl, chwaraeodd i dîm A Leinster rhwng 2005 a 2009. Mae hefyd wedi hyfforddi yn rhaglen saith bob ochr Iwerddon.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Rydym wrth ein bodd i gael hyfforddwr o’r radd yma yn ein ymuno yn y tîm hyfforddi.
“Chwaraeodd rhan enfawr yn llwyddiant Leinster ac rydym yn edyrch ymlaen at weld beth all ddod i’r Scarlets. Edrychwn ymlaen at ei groesawu i’r tîm ar ddechrau’r tymor newydd.”
Ar ôl treulio wyth mlynedd gyda Leinster, mae Hugh yn edrych ymlaen at y cyfle yng Ngorllewin Cymru.
Dywedodd: “Dwi’n falch iawn i ymuno Dwayne a’i dîm hyfforddi gyda’r Scarlets. Maent yn dîm gyda hanes balch ac maent yn enwog am y sgil
“Edrychaf ymlaen at symud, gyda fy nheulu ifanc, i’r rhanbarth a dod i nabod y cefnogwyr balch a frwdfrydig a llawer o bobl anhygoel rwy’n siwr o gwrdd. Rydym yn edrych ymlaen at yr anturiaethau yng Ngorllewin Cymru.
“Mwynheais yr wyth mlynedd yn Leinster a’r cyfleoedd gefais i ddatblygu a dysgu fy nghrefft ac rwy’n ddiolchgar iawn o’r ffrinidiau dwi wedi cwrdd. Does gen i ddim amheuaeth byddaf yr un mor ffodus y tro yma gyda chwrdd â bobl anhygoel ymysg y chwaraewyr, staff a chefnogwyr ym Mharc y Scarlets.”
Bydd y Scarlets yn dychwelyd i ymarferion cyn i’r tymor ddechrau ar ddydd Llun i baratoi ar gyfer ymgyrch y Pencampwriaeth Rygbi Unedig newydd ar ddiwedd mis Medi.