Iestyn Rees am wneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets yng Nghwpan yr Enfys

GwenanNewyddion

Bydd y Scarlets yn cychwyn ei ymgyrch Cwpan yr Enfys gydag ochr sydd yn cynnwys cyfuniad o ieuenctid a phrofiad rhyngwladol.

Y bachwr Ryan Elias fydd yn arwain y tîm am y tro cyntaf, wrth i ni groesawu yn ôl Rob Evans sydd wedi gwella o gyfergyd.

Mae yna 13 o newidiadau i’r tîm a wnaeth chwarae yng ngêm Cwpan Pencampwyr yn erbyn Sale Sharks mis diwethaf.

Mae Johnny McNicholl newid o safle’r asgellwr i gefnwr gyda Tom Rogers a Steff Evans ar yr asgell.

Yn y canol, mae’r cyn-ddraig Tyler Morgan a’r Llew Jonathan Davies, wrth i Sam Costelow ddechrau fel maswr a Dane Blacker fydd y mewnwr.

Mae Alex Jeffries am dderbyn ei ddechreuad cyntaf yn y PRO14 fel prop pen-tynn, wrth weithio ynghyd Elias ac Evans yn y rheng flaen.

Tu ôl iddyn nhw, mae Jake Ball yn cyflwyno’r profiad rhyngwladol i’r ail-reng wrth ochr y chwaraewr ifanc Morgan Jones, sydd wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets.

Mae yna weddnewidiad i’r rheng ôl hefyd gyda’r chwaraewr rhyngwladol i’r Alban Blade Thomson, yr ŵr De Affrig Uzair Cassiem a’r chwaraewr 21 oed Iestyn Rees, a fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets.

Roedd Rees sy’n wreiddiol o Landeilo, yn rhan o’r garfan d20 yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn yr Ariannin yn 2019 ac yn un o’r chwaraewyr ifanc disglair sydd yn datblygu gyda’r Scarlets.

Roedd Rees i fod i chwarae yn ystod gêm Cwpan Pencampwyr yn erbyn Toulon ym mis Rhagfyr cyn i’r gêm gael ei ohirio ar y funud olaf.

Ar y fainc, mae Daf Hughes, Steff Thomas a Werner Kruger ar gyfer y rheng flaen ac yn eu hymuno mae Lewis Rawlins, y chwaraewr rheng ôl ifanc Carwyn Tuipulotu, y mewnwr rhyngwladol Kieran Hardy – sydd wedi gwella o anaf cafodd yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr – Angus O’Brien a Steff Hughes.

Enillodd y Scarlets yn ystod ei ymweliad diwethaf i Gasnewydd yn y PRO14 ym mis Awst, gan sgori chwe chais â buddugoliaeth o 41-20.

Tîm y Scarlets v Dreigiau (Cwpan yr Enfys Guinness PRO14; Rodney Parade, Sul, Ebrill 25 13:00 Premier Sports)

15 Johnny McNicholl; 14 Tom Rogers, 13 Tyler Morgan, 12 Jonathan Davies, 11 Steff Evans; 10 Sam Costelow, 9 Dane Blacker; 1 Rob Evans, 2 Ryan Elias (capt), 3 Alex Jeffries, 4 Jake Ball, 5 Morgan Jones, 6 Blade Thomson, 7 Iestyn Rees, 8 Uzair Cassiem.

Reps: 16 Dafydd Hughes, 17 Steff Thomas, 18 Werner Kruger, 19 Lewis Rawlins, 20 Carwyn Tuipulotu, 21 Kieran Hardy, 22 Angus O’Brien, 23 Steff Hughes.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Johnny Williams (shoulder), Dan Jones (ankle), Rhys Patchell (hamstring), Tom Prydie (foot), Josh Macleod (Achilles), Dan Davis (hamstring), Tomi Lewis (knee), Samson Lee (concussion), James Davies (concussion), Danny Drake (ankle), Ioan Nicholas (ankle).