Jac ac Elis: Y brodyr diweddaraf i gynrychioli’r Scarlets

Rob LloydNewyddion

Llongyfarchiadau i Jac ac Elis Price ar ddod y brodyr diweddaraf i gynrychioli’r Scarlets.

Fe ymddangosodd y ddau yn y fuddugoliaeth 26-14 yn erbyn eu clwb cartref Cwins Caerfyrddin ar Ddydd Sadwrn, diwrnod i’w gofio i’e teulu Price.

Y ddau wedi cynrychioli Cymru ar lefel D20, fe ddechreuodd Elis fel maswr yn erbyn y Cwins ar Ddydd Sadwrn, wrth iddo’i frawd Jac ei ymuno fel eilydd yn yr ail hanner.

Mae gan hanesydd y clwb Les Williams record am bob un brawd sydd wedi chwarae i’r clwb ac yn ôl ei gofnodion y brodyr Price yw rhif 81, yn dliyn enwau mawr fel y Quinnells, y Boobyers, Jonathan a James Davies, Simon a Guy Easterby, Garan a Deiniol Evans, Aaron a Steve Shingler ac wrth fynd yn bellach, y brodyr John – Clive, Barry ac Allan – Barry a Brian Llewellyn a Wally, Norman a Byron Gale.

Y brodyr diweddaraf cyn Elis a Jac yw’r propiau Harri a Sam O’Connor.

Bydd y Scarlets yn parhau eu gemau cyfeillgar penwythnos yma yn erbyn Leicester Tigers yn Mattioli Woods Welford Road ar Ddydd Sadwrn (CG 3yp).