Bydd y chwaraewr rheng ôl Jac Morgan yn gadael y Scarlets ar ddiwedd y tymor.
Roedd Jac yn aelod o Academi’r Scarlets, ac er iddo fod ond 21 mlwydd oed, mae wedi chwarae 15 gêm fel rhan o’r tîm cyntaf dros y ddau dymor diwethaf, yn cynnwys pedwar yn y gystadleuaeth Ewropeaidd.
Fe wnaeth y Scarlets cynnig cytundeb newydd iddo i gadw ym Mharc y Scarlets, ond benderfynodd symud ymlaen.
Dywedodd Jon Daniels, rheolwr cyffredinol rygbi’r Scarlets: “Yn amlwg rydym yn siomedig bod Jac wedi penderfynu ein gadael. Mae’n un o’r chwaraewr ifanc a dalentog iawn sydd wedi dod trwy ein system ac yn barod wedi bod yn gapten ar ein tîm A, ac wedi cymryd ei gyfle i serennu ymysg y garfan hŷn tymor hyn.
“Rydym yn dymuno’n dda iddo gyda’r bennod nesaf o’i yrfa, ond mae dal ganddo ran fawr i chwarae gyda’r Scarlets yn y PRO14, Cwpan Pencampwyr a Chwpan Enfys tymor yma.”
Dywedodd Jac: “Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Scarlets am helpu gyda fy natblygiad. Mae’r misoedd nesaf yn bwysig iawn i ni a dw i’n edrych ymlaen at roi popeth i helpu gorffen y tymor ar nodyn uchel.”