Mae’r chwaraewr rheng ôl Jac Morgan yn derbyn dau ddiolch gan y cefnogwyr yn ein gwobrau diwedd tymor rhithiol.
Gyda’r bleidlais wedi’i gynnal ar draws ein sianeli cymdeithasol, enillodd y chwaraewr 21 oed y bleidlais Chwaraewr y Cefnogwyr y flwyddyn a’r Chwaraewr arloesol y flwyddyn.
Mwynhaodd Jac ymgyrch arbennig, gan sefyll allan yn ystod y fuddugoliaeth Cwpan Pencampwyr yn erbyn Caerfaddon gan roi nifer o berfformiadau sydd wedi bygwth safle yn y garfan ryngwladol.
Fe heriodd Sione Kalamafoni, Dane Blacker a Blade Thomson am wobr chwaraewr y tymor y cefnogwyr ac Dane, Tom Rogers a Javan Sebastian am chwaraewr arloesol y tymor.
Er hynny, fe enillodd Sione y bleidlais Chwaraewr y Chwaraewyr am y tymor, gan ennill pleidlais ei gydchwaraewyr a chafodd ei nodi ar ddiwedd bob gêm yn ystod y tymor.
Mae’r chwaraewr profiadol wedi dangos ei doniau fel wythwr yn ystod ei dymor cyntaf mewn crys Scarlets.
Roedd y bleidlais am gais y tymor yn dynn iawn gyda chais arbennig Tom Rogers yn ystod y fuddugoliaeth gartref yn erbyn Connacht yn serennu. Roedd cais Tom ond ychydig o flaen cais Kieran Hardy o’r gêm Caerfaddon nôl ym mis Rhagfyr i gipio’r wobr.
Gwobrau Diwedd Tymor Scarlets Olew Dros Gymru
Chwaraewyr y tymor gan y cefnogwyr – Jac Morgan
Chwaraewyr y Chwaraewyr o’r tymor – Sione Kalamafoni
Chwaraewr Arloesol y tymor – Jac Morgan
Cais y tymor – Tom Rogers vs Connacht