Enillydd Chwaraewr y Mis Olew dros Gymru am fis Chwefror yw Jac Morgan ar ôl dychweliad anhygoel o’i anaf.
Gwnaeth Jac maeddu’r gystadleuaeth yn erbyn enillydd mis Ionawr Sione Kalamafoni, y canolwr Tyler Morgan a’r maswr Dane Blacker, gan ennill mwy na 60% o’r bleidlais ar ein sianeli cymdeithasol.
Yn ystod ei gêm gyntaf ar ôl dychwelyd o anaf i’w ben-glin, fe lwyddodd i sgori dau gais ac ennill gwobr seren y gêm yn erbyn Benetton cyn iddo helpu ei dîm i gael buddugoliaeth holl bwysig yn erbyn Caeredin gan wneud 25 o daclau yn erbyn yr Albanwyr.
Nawr mae’r ffocws ar gêm nos Wener yn erbyn Munster yn Limerick, lle bydd y Scarlets yn bwriadu sicrhau eu lle yng Nghwpan y Pencampwyr Heineken tymor nesaf.