Bydd ail reng Cymru a’r Scarlets Jake Ball yn dychwelyd i Awstralia ar ddiwedd y tymor.
Dychwelodd ei wraig Christie i Awstralia yn gynharach yn y flwyddyn i fod gyda’i theulu cyn genedigaeth eu pedwerydd plentyn Max.
Bydd Jake yn ail-ymuno a’i deulu ym mis Gorffennaf, ac yn cau’r bennod naw mlynedd o hyd yng Ngorllewin Cymru.
“Roedd hi’n benderfyniad anodd iawn, ond penderfyniad roedd rhaid gwneud er mwyn fy nheulu” dywedodd Jake. “Gyda fy ngwraig yn disgwyl ein pedwerydd plentyn ar ddechrau’r flwyddyn, a Covid yn achosi i’r chwaraewyr fod mewn bybls, fe benderfynom mai’r opsiwn gorau oedd i Christie a’r plant i ddychwelyd i Awstralia er mwyn iddi gael cymorth a chefnogaeth deuluol.
“Cafodd Max ei eni mis diwethaf, ac er i ni gael nifer o alwadau Zoom, dwi heb ei gwrdd eto ac mae hynny wedi bod yn anodd iawn. Gyda’r holl sydd yn mynd ymlaen, dwi fethu disgwyl i Christie i adael ei theulu unwaith eto a symud yn ôl i Gymru.
“Mae wedi bod yn naw tymor anhygoel yma. Dwi’n caru’r Scarlets ac mae cael y cyfle i chwarae i Gymru wedi bod yn brofiad bythgofiadwy.
“Anrhydedd mawr oedd cael cynrychioli fy ngwlad, ond ar ddiwedd y dydd mae wedi bod yn aberthiad anferth i fod yma heb fy nheulu am flwyddyn gyfan. Mae gen i bedwar plentyn nawr ac mae’n agos at flwyddyn ers i mi weld nhw diwethaf.
Cyrhaeddodd Jake yng Ngorllewin Cymru o’r Western Force yn 2012, a chafodd ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets yn y Gynghrair Geltaidd yn erbyn Connacht yn Galway. Ers hynny, cafwyd 127 o ymddangosiadau a 49 o gapiau i Gymru, ac mae’n chwaraewr poblogaidd iawn ymysg y cefnogwyr a’i gyd-chwaraewyr.
“Dwi’n ddyledus i’r Scarlets ac i rygbi Cymru” ychwanegodd Jake. “Er i mi chwarae yn gynt gyda’r Western Force, y Scarlets wnaeth rhoi’r cyfle cyntaf i mi chwarae rygbi hŷn, a fydd hi’n deimlad da i orffen ar nodyn da, a dangos fy ngwerthfawrogiad i’r Scarlets am bopeth dros y blynyddoedd.
“Mae gen i atgofion arbennig iawn a dwi wedi cael cyfleoedd arbennig hefyd. Rydym wedi ennill y PRO12, wedi cyrraedd rownd gynderfynol Ewropeaidd; dwy Gamp Lawn a dau Gwpan y Byd. Dwi ddim yn difaru dim byd.
“Mawr obeithiaf fe allwn groesawi gefnogwyr yn ôl i Barc y Scarlets cyn diwedd y tymor, er mwyn i mi allu dweud ffarwel yn iawn.”
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney: “Rydym yn parchu penderfyniad Jake megis clwb. Mae teulu yn rhan bwysig iawn o’r Scarlets ac mae Jake wedi aberthu rhan fawr o’i fywyd wrth fod i ffwrdd o’i blant a’i wraig am gyfnod hir.
“Mae Jake wedi bod yn chwaraewr ac yn ddyn anhygoel, ac yn fentor ardderchog i’r chwaraewyr ifanc sydd yn dod trwy’r garfan.
“Gallwch weld o’i berfformiad yn erbyn y Gweilch ar Ŵyl San Steffan faint mae chwarae i’r Scarlets yn golygu iddo, ac rydym yn gobeithio cawn groesawi gefnogwyr yn ôl i Barc y Scarlets erbyn diwedd y tymor er mwyn i bawb gallu ei ffarwelio.”
Ychwanegodd rheolwr cyffredinol y Scarlets Jon Daniels: “Pan ddaeth Gareth Jenkins â Jake i mewn i’r clwb, doedd neb yn ei nabod. Ers hynny, mae Jake wedi dangos ei ymrwymiad i’r clwb ac i’w datblygiad personol ac maent wedi cael ei wobrwyo am ei waith caled trwy ei yrfa. Mae’n esiampl dda o beth allwch gyflawni wrth gyfuno proffesiynoldeb a gallu.
“Rydym yn dymuno pob dymuniad da i Jake, Christie a’u plant am y dyfodol. Bydd Jake yn gadael y clwb gyda’n parch tuag at ei benderfyniad, ac ein gwerthfawrogiad o’r holl mae ef wedi cyfrannu ar ac oddi ar y cae.”