Mae prop y Scarlets Javan Sebastian wedi’i alw i fyny i garfan yr Alban ar gyfer gemau’r Hydref.
Mae’r prop pen tynn di-gap wedi ychwanegu at y garfan gan Gregor Townsend o flaen gemau yn erbyn Awstralia, De Affrica a Japan.
Mae Javan yn gymwys i chwarae i’r Alban trwy ei dad, sydd o Gaeredin.
Cafodd ei alw i fyny i’r garfan yn ystod gemau’r haf ond oherwydd Covid-19 roedd rhaid i’r gemau cael ei ganslo.
Mae’r chwaraewr 27 oed o Gaerfyrddin wedi gwneud 40 o ymddangosiadau i’r Scarlets ers wneud ei ymddangosiad cyntaf pedair mlynedd yn ôl.