Mae Javan wedi sôn am ei syndod ar ôl cael ei enwi yng ngharfan yr Alban ar gyfer gemau’r haf.
Mae’r prop 26 oed wedi cael ei gynnwys yn y garfan 34 dyn sydd wedi’i ddewis gan brif hyfforddwr Mike Blair ar ddydd Mawrth.
Mae Javan yn gymwys i’r Alban trwy ei dad a gafodd ei eni yng Nghaeredin. Cafodd tymor gyda Glasgow Warriors yn 2016, ond fe ddatblygodd trwy lwybr datblygu’r Scarlets, gan chwarae i’r Academi, Cymru d18 a Chwins Caerfyrddin yn yr Uwch Gynghrair Gymraeg cyn iddo ennill ei le yng ngharfan y Scarlets.
Nawr yn ei ail gyfnod ym Mharc y Scarlets, mae Javan wedi chwarae 18 gêm y tymor yma a 38 yn gyfan ers iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2014 ac yn ddiweddar fe ymrwymodd i’r clwb yn hirdymor wrth arwyddo cytundeb newydd.
“Dwi wrth fy modd, ro’n i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl felly dwi’n hapus iawn gyda’r galwad, mae’n foment balch iawn i’r teulu,” dywedodd.
“Roedd fy nhad-cu o Felize ac roedd fy nhad wedi ei eni a’i fagu yng Nghaeredin. Cefais flwyddyn gyda Glasgow Warriors yn 2016, ond erioed wedi meddwl am gael cyfle i chwarae i’r Alban. Mae’n anrhydedd enfawr i mi ac yn gyrhaeddiad i mi gan fod fy nhad yn Albanwr felly mae’n agos iawn at fy nghalon.
“Ar ôl ailgychwyn o’r cyfnod clo, roeddwn yn edrych ymlaen at weithio’n galed a cheisio cael cyfleoedd i chwarae yma. Gweithiais gyda Ben Franks a Glax (Glenn Delaney), ac fe wnaethon nhw fy helpu a fy ngwthio. Roedd rhaid cymryd camau bach ymlaen i allu cael y wobr.
“Dwi wedi bod mewn cysylltiad gyda rhywun o dîm rheoli’r Alban ac maen nhw’n disgwyl i fy ngwthio i wella fel chwaraewr. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â’r garfan.”
Bydd tîm yr Alban A yn chwarae yn erbyn Lloegr A yn stadiwm Mattioli Woods Welford Road ar ddydd Sadwrn, Mehefin 27 cyn i’r tîm chwarae yn erbyn Rwmania ar Orffennaf 19 a Georgia ar Orffennaf 17.