Prop y Scarlets Javan Sebastian sydd wedi’i enwi yng ngharfan 40 dyn yr Alban ar gyfer eu taith i Dde America dros yr haf.
Gwnaeth y chwaraewr 27 oed ei ymddangosiad cyntaf i’r Alban yn erbyn Japan yn BT Murayfield ym mis Tachwedd a gafodd ei wobrwyo eto
Mae Javan yn gymwys i chwarae i’r Alban trwy ei dad a fagwyd yng Nghaeredin.
Bydd tîm ‘A’ Yr Alban yn cychwyn ei gêm cystadleuol gyntaf ers 2014 ar Ddydd Sadwrn Mehefin 24 yn erbyn Chile.
Bydd carfan Gregor Townsend wedyn yn teithio i’r Ariannin ar gyfer tri prawf cyntaf yn erbyn tîm yn yr haen gyntaf.