Jenkins Bakery yn cefnogi Sam

Rob LloydNewyddion

Mae un o sêr dyfodol rygbi Cymru wedi derbyn cefnogaeth gan gwmni uchel ei barch, Jenkins Bakery wrth iddynt gytuno i noddi maswr y Scarlets Sam Costelow.

Mae’r cwmni teuluol yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni.

Sefydlwyd yn 1921 fel busnes teuluol yn Llanelli ac maent yn parhau i fod yn fusnes poblogaidd ymysg cymunedau yng ngorllewin Cymru.

Mae gan Jenkins Bakery traddodiad hir o gefnogi’r Scarlets sy’n dyddio nôl i ddyddiau Parc y Strade.

Mae Sam, 20, a wnaeth ymuno o Leicester Tigers yn yr haf, wedi creu argraff dda iawn yn ystod ei dymor cyntaf gyda’r Scarlets.

Dywedodd cyfarwyddwr gweithrediadau Jenkins Bakery, Russell Jenkins: “Rydym wrth ein bodd i noddi Sam Costelow, chwaraewr sydd â dyfodol disglair o’i blaen.

“Er ein bod yn fusnes gyda siopau o amgylch de Cymru, mae ein gwreiddiau yn Llanelli.

“Mae enw’r busnes wedi bod yn gysylltiedig â’r Scarlets ers blynyddoedd maeth, ac rydym yn falch iawn o chwarae rhan yn yr ymgyrch bresennol gan gefnogi Sam Costelow.

“Gallwch weld enw Jenkins Bakery o amgylch stadiwm Parc y Scarlets. Rydym yn falch iawn o gefnogi’r clwb ac rydym yn dymuno pob llwyddiant i Sam a’i dîm am weddill y tymor.”

Dywedodd pennaeth masnachol y Scarlets, James Bibby: “Mae Jenkins yn ymgorffi popeth rydym yn cynrychioli yn y Scarlets. Maent yn gwmni teuluol lleol balch gyda gwreiddiau dwfn yn ein cymuned sydd yn parchu treftadaeth.

“Mae Jenkins a’r Scarlets yn hen ffrindiau ac mae’n wych i weld eu parodrwydd i gefnogi un o dalentau ifanc y clwb fel noddwyr. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r teulu Jenkins a’u gweithwyr i Barc y Scarlets pan fydd hi’n ddiogel gwneud.”

Yn llun gyda Sam mae (chwith) cyfarwyddwr gweithrediadau Jenkins Bakery Russell Jenkins ac ysgrifennydd y cwmni a chyfarwyddwr masnachol David Jenkins. Llun: Riley Sports Photography

Am fwy o wybodaeth ar noddi chwaraewr y Scarlets cysylltwch â [email protected] neu ffonwich 01554 783944

Darllenwch mwy am Jenkins Bakery ar jenkinsbakery.co.uk