Cyn gapten ar dîm D18 Scarlets Jenna de Vera sydd yn edrych ymlaen at gyfle i arwain Menywod Cymru D20 yng ngêm agoriadol o ddau o daith Gogledd America pan fyddant yn herio’r UDA ym Mharc Rygbi Elms, Ottawa, Canada ar Ddydd Mawrth. (CG: 6:30yh amser lleol).
Mae’r chwaraewr 19 oed o Borth Tywyn yn gapten ar garfan D20 Cymru gyda 28 o chwaraewyr sydd heb gap eto yn erbyn y tîm gorau yn eu gradd oedran o Ogledd America.
Yn ymuno â de Vera yn y tîm i ddechrau mae’r asgellwr Seren Singleton a’r canolwr Ellie Tromans, wrth i’r prop Cadi-Lois Davies, chwaraewyr rheng ôl Maisie Davies a Finley Jones a’r olwr Carys Hughes gael eu henwi ymysg yr eilyddion. Mae’r chwaraewyr i gyd wedi datblygu trwy system datblygu’r Scarlets.
Yn dilyn y gêm yn erbyn UDA, bydd Cymru yn herio Canada ar Orffennaf 13 yn Twin Elms Rugby Park.
De Vera, a chafodd ei ddewis ar gyfer carfan hyn Cymru am gyfres Chwe Gwlad TikTok diweddar, bydd yn gapten ar y garfan, gyda Jess Rogers wedi enwi fel is-gapten.
Dywedodd de Vera: “Mae’n anrhydedd ac yn gyfrifoldeb i fod yn gapten ar fy ngwlad ond wrth gael y profiad yn barod o chwarae yn ngemau Celtic Challenge a fod yn rhan o garfan hyn, mae hyn wedi newid fy rhagolwg ar y safon sydd angen.
“Mae’n gyffrous iawn i fod yn rhan o hwn ac mae’r chwaraewyr i gyd yn teimlo yr un peth. Rydym wedi dysgu cymaint yn ystod yr ymarferion ac rydym eisiau llwyddo gyda beth i ni wedi dysgu ar y cae chwarae.
“Rydym yn ymwybodol o ba mor gorfforol ac atheltaidd mae’r ochr byddwn yn chwarae yn erbyn ond serch hynny mae gan ein tîm sgiliau a chwarae technegol i fanteisio.
“Rydym i gyd methu credu ein bod yn rhan o rhywbeth newydd ac yn rhan o rhywbeth mae llawer o ferched heb weld o’r blaen. Mae’n gyffrous iawn i fod yn rhan o’r statws newydd sydd gan rygbi merched.
“Rydym wedi sôn am guro’r UDA ym mis Gorffennaf, ond y peth pwysicaf yw ein bod yn perfformio, dysgu o’r profiad yma ac yn adeiladu at y dyfodol.”
Mae’r holl chwaraewyr sydd wedi’u dewis yng ngharfan D20 Cymru heb gap eto ac yn ennill eu cap cyntaf i Gymru D20 ym mis Gorffennaf.
Mae’r carfan yn gweld 16 o chwaraewyr raddedig o Gymru D18 i Gymru D20 ac yn cynnwys saith chwaraewr sydd wedi chwarae yng ngemau Celtic Challenge yn erbyn Iwerddon a’r Alban.
Cymru D20 v UDA D20: 15 Bethan Adkins; 14 Seren Singleton, 13 Ellie Tromans, 12 Jenna De Vera (capt), 11 Nel Metcalfe; 10 Chelsea Williams, 9 Molly Reardon; 1 Cana Williams, 2 Rosie Carr, 3 Katie Carr, 4 Alaw Pyrs, 5 Erin Jones, 6 Jess Rogers, 7 Lucy Issac 8 Gwennan Hopkins.
Eilyddion: Molly Wakely, Chloe Thomas-Bradley, Cadi-Lois Davies, Robyn Davies, Masie Davies, Finley Jones, Sian Jones, Molly Anderson Thomas, Molly Powell, Carys Hughes, Kim Thurlow. TRS: Kate Davies, Dali Hopkins
Carfan CYMRU D20 sydd ar daith yng Ngogledd America
BLAENWYR: Alaw Pyrs (Hartpury), Cadi-Lois Davies (Lampeter), Cana Williams (Loughborough Uni), Chloe Thomas Bradley (Dragons Academy), Dali Hopkins (Hartpury), Erin Jones (RGC), Finley Jones (Burry Port), Gwennan Hopkins (Hartpury), Jess Rogers (Cardiff Met, vice-captain), Katie Carr (Cardiff Met), Lucy Isaac (Dragons Academy), Maisie Davies (Burry Port), Molly Wakely (Coleg Gwent), Robyn Davies (Hartpury), Rosie Carr (Cardiff Met)
OLWYR: Bethan Adkins (Unattached), Carys Hughes (Hartpury), Chelsea Williams- (Nelson), Ellie Tromans (Cardiff Uni), Jenna De Vera (Bristol Uni, captain), Kate Davies (Bangor University), Kim Thurlow (Bath University), Molly Anderson-Thomas (Loughborough Uni), Molly Mae Powell- (Dragons Academy), Molly Reardon (Nelson), Nel Metcalfe (Hartpury), Seren Singleton- (Cardiff Met), Sian Jones (Sale Sharks)