Johnny McNicholl yn arwyddo cytundeb newydd i ymestyn arhosiad gyda’r Scarlets

Menna IsaacNewyddion

Johnny McNicholl yw’r chwaraewr proffil uchel diweddaraf i gytuno ar gytundeb newydd gyda’r Scarlets.

Ymunodd McNicholl, sy’n gallu chwarae yn y cefn neu adain, o Crusaders o Rygbi Seland Newydd yn 2016 ac roedd yn rhan o dîm y Scarlets a gododd deitl Guinness PRO12 y tymor hwnnw.

Bu’n rhedwr ymosodol grymus, a chafodd effaith ar unwaith ym Mharc y Scarlets ar ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Leinster ac mae wedi mynd ymlaen i gyffwrdd 27 gwaith mewn 59 ymddangosiad, gan gynnwys hat-tric cofiadwy yn rownd derfynol PRO14 y llynedd yn Nulyn.

Daw’r newyddion bod McNicholl yn ymestyn ei arhosiad yng Ngorllewin Cymru ar gefn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf bod Jonathan Davies, Ken Owens a Rob Evans wedi ennill cytundebau newydd gyda’r Scarlets.

“Rwy’n hapus bod popeth wedi’i gwblhau ac rwy’n aros yn y Scarlets,” meddai McNicholl.

“Rydw i a fy nheulu wedi ymgartrefu yma yng Nghymru ac wedi cael croeso mawr.

“Rydym wedi cael llwyddiant mawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a gobeithio bod mwy i ddod.

“Rwy’n edrych ymlaen at ailgysylltu â fy hen hyfforddwr Crusaders, Brad Mooar, ac rwy’n teimlo bod yna gyfnodau cyffrous o’n blaenau.”

Roedd McNicholl, a aned yn Christchurch, yn rheolaidd i’r Crusaders yn ‘Super Rugby’ ac yn enillydd teitl gyda thîm taleithiol Caergaint cyn symud i Orllewin Cymru.

Mae’r 28-mlwydd-oed yn gymwys ar gyfer pencampwyr Chwe Gwlad Cymru ar gyfnod preswyl ym mis Rhagfyr.

“Mae’n newyddion gwych bod Johnny wedi arwyddo cytundeb newydd,” meddai Wayne Pivac, prif hyfforddwr y Scarlets.

“Mae wedi bod yn un o’r bygythiadau ymosodiad mwyaf peryglus yn y PRO14 dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi chwarae rhan fawr yn y broses o gyrraedd rowndiau terfynol olynol ac yn rownd gynderfynol Ewropeaidd.

“Gyda newyddion Jon, Ken a Rob yn arwyddo’r wythnos diwethaf, mae hwn yn arwydd pwysig arall i’r Scarlets. Mae’r garfan yn edrych yn gryf ar gyfer y tymor nesaf.”