Dywedodd Johnny WIlilams bod bois y Scarlets yn benderfynol i gywiro’r camgymeriadau o benwythnos diwethaf yn ystod y gêm yn erbyn Munster.
Mae’r Scarlets i chwarae yn erbyn y pencampwyr Leinster yn stadiwm RDS yn Nulyn am y drydedd rownd o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar Ddydd Sadwrn, gan obeithio i ddod nôl o’r golled 41-13 o benwythnos diwethaf ym Mharc y Scarlets.
“Fel chwaraewyr rydym yn gwybod nad oedd hynny yn ddigon da; rydym yn gwybod beth oedd yn wael a beth oedd yn dda, ac ar y diwrnod nad oedd llawer o bethau da,” dywedodd Williams.
“Cawsom adolygiad onest a chyflym ar Ddydd Mawrth, ond ar ôl hynny roedd rhaid i ni canolbwyntio ar Leinster.
“Rydym yn ymwybodol o’r sialens, ac beth yw eu cryfderau. Bydd nifer o chwaraewyr rhynwladol gyda nhw fel Sexton, Henshaw, Ringrose. Fel wedais i, bydd hi’n heriol iawn ond rydym yn edrych ymlaen at hynny.”
Ychwanegodd Williams: “Mae pob tîm yn mynd trwy cyfnodau anodd, ac rydym ni fel grwp yn teimlo ein bod yn dechrau codi eto ac os ydym yn perfformio ar ein gorau ar Ddydd Sadwrn, bydd gennym y cyfle gorau i droi Leinster drosodd.”
Dychwelodd Williams o anaf i’w ysgwydd yn ystod yr hanner cyntaf r Ddydd Sadwrn fel eilydd i Scott Williams.
Roedd hyn i ddigon i berswadio prif hyfforddwr Cymru Wayne Pivac i’w ddewis fel un o’r 10 Scarlets yng ngharfan Cymru ar gyfer cyfres yr Hydref.
“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr, nad oeddwn yn disgwyl cael fy nghynnwys ar ôl dychwelyd o anaf hirdymor, ond dw i mor hapus,” ychwanegodd y chwaraewr 25 oed.
“Roedd yr anaf yn lletwith iawn ac mae’r chwe mis diwethaf wedi bod yn anodd, ond mae chwarae o flaen cefnogwyr ac fy nheulu unwaith eto yn deimlad anhygoel. Dyna beth sy’n bwysig i mi.”