Chwaraewr rhyngwladol Cymru a’r Llewod Jonathan Davies fydd capten y Scarlets ar gyfer tymor 2021-22.
Mae Davies wedi chwarae 170 o gemau i’r Scarlets ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2006 ac yn un o ganolwyr enwocaf Cymru wrth ennill 91 o gapiau i’w wlad ac wedi teithio gyda’r Llewod i Awstralia yn 2013 a Seland Newydd yn 2017.
Dyma fydd ei ail gyfnod fel arweinydd ar ôl treulio amser yn rhannu’r rôl gyda Rob McCusker yn 2013.
‘Foxy’ fydd yn cymryd lle’r bachwr Ken Owens a wnaeth arwain y Scarlets am saith tymor yn olynol.
“Jon ydy un o’r chwaraewr mwyaf uchel ei barch yn y gêm, rhywun sydd gyda llawer o brofiad ar bob lefel,” dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel.
“Mae Jon wedi arwain ymysg ein grŵp ar hyd y blynyddoedd ac ers i mi fod yma mae ei sgiliau fel arweinydd wedi dod i’r amlwg i bawb i weld, ar ac oddi ar y cae.
“Mae’n broffesiynol iawn – mae pawb yn gwrando pan mae e’n siarad. Mae’r ffordd mae’n cario ei hun yn esiampl i bawb yn y garfan.
“Yn ogystal â bod yn rhan hanfodol o’r clwb am amser hir, mae Jon wedi tyfu lan yn y rhanbarth, wedi chwarae ei rygbi iau yma ac yn amlwg mae gwisgo crys y Scarlets wedi golygu llawer iddo.”
Gan dalu teyrnged i’r cyn-gapten Owens, ychwanegodd Peel: “Mae Ken wedi bod yn arweinydd arbennig dros y saith mlynedd diwethaf a fydd yn parhau i chwarae rhan enfawr yn arweinyddiaeth y grwp.”
Dywedodd Davies, a oedd yn gapten ar dîm Cymru yn ystod gemau rhyngwladol yr haf: “Mae’n anrhydedd mawr i dderbyn y rôl fel capten i’r Scarlets, wrth edrych ar fwrdd Capteiniaid y Scarlets gallwch weld sawl eicon sydd wedi arwain y clwb.
“Rwy’n ffodus iawn bydd grŵp arweinyddol cryf o’n hamgylch – Llewod a chwaraewyr rhyngwladol profiadol sydd wedi mwynhau’r llwyddiant ar lefel domestig a Phrawf.
“Ennill teitl y PRO12 gyda’r Scarlets pedair blynedd yn ôl yw un o uchafbwyntiau fy ngyrfa ac mae yna angerdd ymysg y chwaraewyr a’r grŵp hyfforddi i gyrraedd y lefel yna eto.
“Roedd ymarferion cyn-dymor yn dda, fe weithiodd y bois yn galed ac rydym yn edrych ymlaen at gychwyn y tymor URC newydd yng Nghaeredin ar ddydd Sadwrn.”