Bydd un o oreuon y Scarlets, Jonathan Davies, yn ffarwelio’r clwb ar ddiwedd y tymor.
Ar ôl 16 tymor, sy’n ymestyn dros ddau gyfnod gyda’r clwb, bydd ‘Foxy’ yn symud ymlaen ar ddiwedd yr ymgyrch yma.
O Fancyfelin yn Sir Gar, mae Jonathan wedi ymddangos 209 o weithiau yng nghrys y Scarlets gan chwarae ei gêm gyntaf yn erbyn Northampton Saints fel chwaraewr 18 oed nôl yn 2006.
Yn gyn capten ar y clwb, roedd yn aelod craidd o’r ochr a godwyd teitl y Guinness PRO12 yn 2016-17 – y Scarlets yn codi’r cwpan gan ddiolch i frand eiconig o rygbi ymosodol.
Mae Jonathan wedi mynd ymlaen i fod yn un o ganolwyr mwyaf addurnedig yn y byd rygbi, gan gynrychioli’r Llewod yn y gyfres Brawf yn erbyn Awstralia (2013) a Seland Newydd (2017) – lle bu’n chwaraewr y gyfres. Mae hefyd wedi chwarae 96 Prawf i Gymru, gan gynnwys mewn dau dîm a enillodd Gamp Lawn, dwy fuddugoliaeth arall yn y bencampwriaeth, a dwy Gwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd (2011) a Japan (2019). Mae hefyd wedi bod yn gapten ar yr ochr genedlaethol bedair gwaith.
Wrth siarad cyn ein gêm gartref olaf Dydd Sadwrn yn erbyn Ulster, dywedodd Jonathan: “Rwy’n mynd i golli’r lle yma a’r grŵp yma. O ddydd i ddydd, mae bod o gwmpas criw gwych o fechgyn a chael dweud eich bod yn gweithio yn deimlad breintiedig iawn.
“Mae wedi bod yn wych i chwarae i’r tîm roeddwn yn cefnogi fel plentyn. Dw i wedi mwynhau bob munud ac wedi creu atgofion arbennig, ond mae rhaid i bopeth ddod i ben rhywbryd.
“Rwy’n cofio fy niwrnod cyntaf yn yr Academi yn Strade, a cherdded i mewn i’r ystafelloedd newid gyda chwaraewyr fel Vernon Cooper, Matthew Rees, Iestyn Thomas, Alix Popham – nhw oedd y ‘guvnors’ o’r ystafelloedd ar y pryd – rhoddais i fy mag i lawr ar y fainc a dod nôl i’w weld ar y llawr; trïais i ardal wahanol o’r fainc y diwrnod nesaf a wnaeth yr un peth digwydd eto! Roedd hi’n brofiad gwych, fi, Ken a fy nghenhedlaeth i yw’r chwaraewyr olaf i gael y profiad o’r amgylchedd ‘old school’ yna.”
Gan edrych yn ôl ar uchafbwyntiau ei yrfa, codi teitl y PRO12 yn Nulyn yn 2017 sydd ar frig y rhestr, yn ogystal â chwarae wrth ochr ei frawd ifancaf James ‘Cubby’.
Ychwanegodd: “Roedd cyfnod o bump neu chwe gêm lle wnes i erioed fwynhau rygbi cymaint ag y gwnes i ar ddiwedd y tymor hwnnw pan enillon ni’r PRO12. Rwyf bob amser wedi dweud, pe baem yn dal mewn cystadleuaeth Ewropeaidd ar y pwynt hwnnw byddem wedi ei hennill.
“Roedd y rygbi llawn sbort ac yn naturiol, roedd y chwaraewyr yn rhedeg ar lefel lle nad oedd angen i ni sôn amdano’r disgwyliadau. Y teimlad oedd ein bod yn chwarae ar ein gorau ac roedd y dalent ymysg y grŵp yn dangos yn ein gemau yn arwain i fyny at y rownd derfynol ac yn y gêm derfynol ei hun.
“Cael y cyfle i chwarae wrth ochr fy mrawd ac ennill y teitl fel rhan o’r un ochr yn rhywbeth rwy’n falch iawn ohono.”
O ran y dyfodol, mae blwyddyn tysteb Jonathan yn cychwyn ym mis Mehefin ac yn obeithiol i barhau ei yrfa chwarae.
“Hoffem weld os oes cyfle i chwarae rhywle arall, pe bai hynny yn dramor neu beidio”, ychwanegodd. “Dwi dal i fwynhau’r ymarferion a chwarae. Dwi’n aml yn clywed amdano ymddeoliad yn para oes – os ydw i’n teimlo fy mod yn gallu ychwanegu at dîm neu amgylchedd bysen i’n ddwl i beidio.
“Mae’r Scarlets wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd. Wrth fynd yn hyn dwi’n gwerthfawrogi’r ymdrech a rhoddir gan bobl – hyfforddwyr, cyd-chwaraewyr, staff – i fy ngyrfa. Mae’r cefnogwyr yma wedi bod yn wych o’r dechrau hefyd.”
Yn talu teyrnged i un o oreuon y Scarlets, dywedodd y prif hyfforddwyr Dwayne Peel: “chwaraeais yn yr un gêm ag ymddangosiad cyntaf Foxy, roedd llawer o sôn amdano’r crwt ifanc yma o Fancyfelin yn dod trwyddo a pan droiodd e lan, roedd Jonathan wedi datblygu’n fwy ‘na rhai o’r garfan hŷn! Yn gryf ac yn gyflym, yn gynnar iawn roedd yn amlwg i weld roedd yna rywbeth arbennig ynddo.
“Roedd bob amser wedi’i dynghedu am bethau mawr, ond mae hefyd wedi gweithio’n ddiflino ar ei gêm i ddod y rhif 13 gorau yn y byd ac mae’n esiampl i unrhyw chwaraewr ifanc sy’n dyheu i fod yn chwaraewr proffesiynol.
“Rwy’n sicr bydd yr wythnosau nesaf yn emosiynol iawn iddo, wrth ddweud ffarwel. Mae Jonathan wedi bod yn rhan enfawr o’r clwb yma am amser hir.”